FINDING HOME

Bydd Finding Home gan Mercury Theatre Wales yn ymweld â Theatr y Torch ar nos Fawrth 2 Mai a nos Fercher 3 Mai am 7.30pm. Mae’n ddarn o theatr grymus a dylanwadol, a bydd yn archwilio straeon am ddigartrefedd.

Wedi’i ddyfeisio gan y cwmni a’i ysgrifennu gan Bethan Morgan, adrodda hanes criw amrywiol o gymeriadau sy’n cael eu taflu at ei gilydd i deulu dros dro wrth iddyn nhw wynebu heriau a chaledi bywyd heb gartref.

Wedi'i gyfarwyddo gan Lynn Hunter, mae'r straeon a adroddir yn seiliedig ar brofiadau go iawn a theithiau bywyd y rhai sydd wedi darganfod eu hunain heb gartref am wahanol resymau, gyda nifer ohonyn nhw wedi cymryd rhan yn natblygiad y ddrama.

“Mae cynhwysiant, integreiddio a grymuso oll yn arwain at ennill ymdeimlad o berthyn, hunan-werth a chyflawniad i bobl sydd â chartref parhaol a’r rheiny heb gartref parhaol. Gobeithiwn y bydd y darn yn datblygu gwell dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o’r llu o bobl yn y gymuned o’n cwmpas ac yn helpu i fynd i’r afael â’r stereoteipiau cyffredinol sydd gan y cyhoedd am bobl ddigartref,” esboniodd Bethan Morgan, Cyfarwyddwr Artistig, Mercury Theatre Wales.

Ac mae Sitting on the Fourth Wall yn ychwanegu: "Archwilia Finding Home bwnc enfawr trwy straeon personol, agos-atoch, gan dynnu ei chynulleidfa i realiti digartrefedd trwy adrodd straeon theatraidd medrus”.

Bwriad y cwmni theatr o Gaerdydd yw cynhyrchu gwaith arloesol o safon uchel sy’n procio’r meddwl. Maent wedi ymrwymo i ddatblygu talent Gymreig a dod â darnau newydd o theatr i’r llwyfan Gymreig, wedi’u creu i fod yn berthnasol i gynulleidfaoedd cyfoes a’r cymunedau y maent yn ymgysylltu â nhw.

Bydd perfformiad cyn y sioe gan gyfranogwyr cymunedol am 7pm.

Rhybudd Cynnwys: Yn cynnwys themâu o ddigartrefedd, cam-drin, camddefnyddio sylweddau, brwydro yn erbyn PTSD, marwolaeth, iechyd meddwl a phrofiadau o'r system llysoedd teulu.

Bydd Finding Home yn ymweld â Theatr y Torch ar nos Fawrth 2 Mai a nos Fercher 3 Mai am 7.30pm. Tocynnau’n £14 / £12 consesiwn. Gellir prynu tocynnau o’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu glicio yma. 

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.