ADOLYGIAD FINDING CHESTER!

Ar ddydd Mercher 31 Mai bydd Theatr y Torch yn agor ei drysau i’r ddrama hyfryd ar gyfer y teulu cyfan - Finding Chester! Roeddwn am ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Edith Tiddles a’i chath gariadaus Chester, felly fe wnaethom anfon Anwen o’r Tîm Marchnata i ofyn rhai cwestiynau … mwynhewch y darllen!

Dywedwch ychydig mwy am Edith ... a fyddwn ni'n cwympo mewn cariad â hi a'i chath fach annwyl Chester?Roedd yr ifanc Edith Tiddles arfer bod yn ddawnsiwr penigamp, gan fwynhau’r llwyfan mewn clasuron megis ‘Cats’ gan Andrew Lloyd Webber. Ond yn dilyn damwain ddawnsio anffodus, lle gollyngwyd Edith, torrodd ei choes a chollodd bob hyder. Gan gredu bod ei gyrfa ddawnsio ar ben, gwrthododd adael ei thŷ, a daeth yn gaeth ac yn ynysig.

Yna, ar ôl nifer o flynyddoedd, ymddangosodd cath fach goll ar garreg ei drws. Doedd hi ddim yn gallu ei adael allan yn y glaw, a chroesawodd Edith y gath i mewn a'i enwi'n Chester.

Mae Finding Chester yn stori am gyfeillgarwch, taith gyffrous Chester ac am Edith yn symud ymlaen.

Disgrifiwch ‘Finding Chester’ mewn tri gair

Cyflym, cerddorol a llawn dychymyg

Pa negeseuon pwysig sy'n cael eu cyfleu yn Finding Chester?

Derbyn pobl o wahanol oedrannau, gwneud ffrindiau newydd a helpu’r rhai sy’n cael trafferth gydag amgylchiadau heriol.

O ble ddaeth y syniad ar gyfer y ddrama?

Ar ôl y cyfyngiadau clo a phrofi unigrwydd, roeddem am greu drama a oedd yn amlygu’r materion parhaus ynghylch hyn.

Ai dyma’ch tro cyntaf yn ymweld â’r Torch, ac os felly a ydych chi’n edrych ymlaen at berfformio ar ein llwyfan yn Sir Benfro?

Ie, dyma fydd ein tro cyntaf yn y Torch ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at berfformio gyda chi.

Beth yw’r rhan orau yn y ddrama i chi?

Mae gennym olygfa stryd a dyna yw fy hoff ran.

Mae'r ddrama hefyd yn addysgiadol - eglurwch pa elfennau addysgol sydd ‘na.

Rydym wedi creu pecyn athrawon sy’n cysylltu’r sioe â gwahanol rannau o’r cwricwlwm.

A’r cwestiwn pwysicaf oll …. A fydd Edith byth yn cael ei haduno â'i hannwyl Chester?

A ddylwn ddatgelu hynny tybed?… BYDD, bydd Edith yn aduno â Chester.

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.