Fidelio gan Beethoven

Bydd Theatr Torch yn un o nifer o sinemâu yn y byd i ddarlledu Fidelio gan Beethoven yn fyw o lwyfan y Met fis Mawrth yma. Gyda chast o sêr, bydd strwythur anarferol Fidelio, ei sgôr godidog, a’i naws sy’n cadarnhau bywyd, yn gwneud eich ymweliad â’r Torch yn brofiad unigryw.

Dros y blynyddoedd, mae Fidelio wedi cael ei galw yn emyn i ryddid ac yn urddas ddynol. Yn gomedi gerddorol ffurfiol (gyda rhifau cerddorol wedi'u gwahanu gan ddeialog ar lafar), roedd gan Fidelio daith hir a chymhleth. Roedd ei hysbryd ddyrchafol yn ei gwneud yn ddewis amlwg ar gyfer sawl cynhyrchiad pwysig yn nodi diwedd yr Ail Ryfel Byd, ac yn cynnwys ailagor Opera Talaith Fienna ym 1955.

Gan symud ymlaen yn gyflym i 2025 ac mae’r opera dal mor boblogaidd a difyr ag erioed. Wedi’i gosod yn Seville tua diwedd y 18fed ganrif, yn ystod y cyfnod o gynnwrf gwleidyddol yn dilyn y Chwyldro Ffrengig, mae cynhyrchiad y Met o’r opera yn gosod y weithred mewn lleoliad cyfoes amhenodol.

Mae’r soprano o Norwy, Lise Davidsen, yn dychwelyd i’r Opera Metropolitan fel Leonore, y wraig ffyddlon sy’n mentro popeth i achub ei gŵr o grafangau gormes.

Yn cwblhau’r cast nodedig mae’r tenor Prydeinig David Butt Philip fel y carcharor gwleidyddol Florestan, bas-bariton o Wlad Pwyl Tomasz Konieczny fel y dihiryn Don Pizarro, yr Almaenwr bas mewn oed René Pape fel ceidwad y carchar Rocco, soprano Tsieineaidd Ying Fang a’r tenor Almaenig Magnus Dietrich fel y Marzelline ifanc a Jaquino, a’r baswr o Ddenmarc Stephen Fernan Don Milling. Susanna Mälkki sy'n arwain y perfformiad ar Fawrth 15, a fydd yn cael ei ddarlledu'n fyw o lwyfan y Met i sinemâu ledled y byd.

Gellir gweld Fidelio gan Beethoven ar sgrin fawr Theatr Torch, ddydd Sadwrn 15 Mawrth am 5pm. Tocynnau yn £20 / £18 consesiynau / £9 i rai dan 26. Ewch i'r wefan am fanylion pellach www.torchtheatre.co.uk,  ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.