EWCH AR SIWRNAI I DDIWRNODAU HUDOL CYFNOD Y RAT PACK

Gadewch i Theatr y Torch, Aberdaugelddau eich cludo yn ȏl i hen ddyddiau da y Rat Pack Era gyda chaneuon a wnaed yn enwog gan Frank, Sammy a Dean yn ogystal âr rhai mwyaf diweddar gyda rhifau y byddwch yn eu hadnabod gan Michael Bublé, Robbie Williams a Harry Connick Junior. 

Bydd lleiswyr yn mynd â chi ar daith trwy amser y byddai Mr Bojangles, Leroy Brown a rhyw ŵr bonheddig o’r enw Mack yn falch ohoni. Gyda chefnogaeth y Moonlight Serenade Orchestra UK clodwiw, o Chicago i New York New York bydd y dynion hyn yn sicr o wneud hynny eu ffordd hwy.

Bydd Sounds of the Rat Pack Era and Beyond, yn ymweld â Theatr y Torch ar ddydd Gwener 16 Chwefror am 7.30pm ac nid ydyw’n sioe debyg i, nac yn swnio’n debyg i sioe deyrnged o gwbl – yn bendant nac ydyw. Yn hytrach fe fyddan nhw’n canu’r caneuon hyfryd o’r cyfnod hwnnw yn y gorffennol gan berfformio trefniadau gan gantorion mwy diweddar sy’n cadw’r genre’n fyw ac yn cyflwyno’r genhedlaeth nesaf o gefnogwyr i beth cerddoriaeth mwyaf eiconig y 10fed ganrif.

Mae tocynnau ar gyfer Sounds of the Rat Pack Era and Beyond ar nos Wener 16 Chwefror am 7.30pm yn Theatr y Torch yn £25. Gellir prynu tocynnau o Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar 01646 695267 neu drwy glicio yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.