In Conversation with Elin Steele, Set Designer for Kill Thy Neighbour

Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae set yn cael ei greu ar gyfer y llwyfan? Sut mae pob manylyn bach yn cael ei berffeithio ar gyfer effaith a'r gwaith sy'n mynd i mewn i gynhyrchiad mor fawr?

Cafodd Anwen sgwrs gydag Elin Steele, Cynllunydd Set Kill Thy Neighbour, sef sioe gyffro gomedi a berfformiwyd yma yn Theatr Torch am rediad cyfyngedig yn unig, gan ddechrau heno ar 24 Ebrill tan 4 Mai. Mae Elin wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobr Linbury ac wedi derbyn Bwrsariaeth y Tŷ Opera Brenhinol ar gyfer 2020. Mae hefyd yn Gydymaith Anrhydeddus CBCDC. Mae ganddi anrhydedd Dosbarth 1af mewn Dylunio ar gyfer Perfformio.

Dyweda ychydig wrthym am sut y cefais dy rôl fel Cynllunydd Set?

Yn 2018, graddiais o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ar ôl astudio cwrs gradd Dylunio ar gyfer Perfformio. Roeddwn i wedi meddwl am ddod yn wneuthurwr gwisgoedd; er hynny, mae'r cwrs yn cwmpasu ystod anhygoel o arferion diwydiant, a thra roeddwn yno sylweddolais fy mod hefyd yn hoff iawn o gynllunio set. Mae fy mhrosiectau diweddar wedi ymdrin â set a gwisgoedd - addasiad newydd o Cinderella Prokoviev ar gyfer Scottish Ballet, coreograffi gan Christopher Hampson, a Branwen: Dadeni, sioe gerdd Gymraeg i Ganolfan Mileniwm Cymru a Chwmni'r Frân Wen, wedi'i chyfarwyddo gan Gethin Evans.

 

Fel Cynllunydd Set ar gyfer Kill Thy Neighbour, beth oedd y peth cyntaf i ti ei wneud pan wnes di gyrraedd y Theatr?

Cefais sgwrs gyda Chelsey Gillard, Cyfarwyddwr Artistig y Torch, a chyfarwyddwr y sioe. Bûm yn sgwrsio am ba arddull weledol yr oeddem yn anelu ato; mae'r darn yn dywyll ac yn ddoniol, felly roedd angen i ni sicrhau’r cydbwysedd hwnnw. Ar gyfer y cam o  greu’r model, fe wnaethom greu strwythur y tŷ, ac yna ar ôl hynny fe wnaethom ddechrau meddwl am y gwahanol weadau sydd eu hangen i greu gofod naturiolaidd y gellid ei dynnu trwy olau hefyd.

 

Pa heriau wnes di eu hwynebu fel cynllunydd set ar gyfer Kill Thy Neighbour?

Anodd oedd cael y naws yn iawn. Mae’n gomedi gyda llawer o elfennau tywyll a doeddwn i ddim am i elfennau o’r set wrth-ddweud ei gilydd. Mae ysgrifennu Lucie Lovatt yn benodol iawn o ran yr hyn y mae'r actorion yn ei wneud ar y llwyfan a'r gofod y maent yn ei feddiannu. Roeddwn i am i’r llwyufan deimlo'n real, bod yn sinistr, ac yn iasol ond ar yr un pryd ei wneud yn dŷ llawn cymeriad lle'r oedd pobl wedi byw ers degawdau.

 

Os hoffai rhywun ddilyn yn ôl dy draed a dod yn Gynllunydd Set, pa gyngor fyddet ti’n ei roi iddyn nhw?

Mae unrhyw brofiad yn dda ac yn ddelfrydol dylai fod gennych ddiddordeb mewn celf, theatr, yn ogystal â hanes a ffotograffiaeth o bosibl. Mae gwisg yn ffordd wych o bortreadu hanes cymdeithasol, felly mae’n syniad da darllen am wisg y cyfnod a chael syniad o newid hanes ffasiwn. Mae’n ddefnyddiol gweld a gwybod sut mae ffasiynau, pensaernïaeth a dillad wedi esblygu. Byddwn hefyd yn argymell i chi fynd i gymaint o theatrau â phosib – gweld fformatau gwahanol; safle-benodol, trochi, dawns, gair llafar - byddant oll yn dylanwadu ar eich ymarfer dylunio.

 

Beth yw dy gredydau theatr diweddar?

Kill Thy Neighbour (Theatr Clwyd); Cinders! (Scottish Ballet); Branwen:Dadeni (WMC/Frân Wen); A Midsummer Night’s Dream (Theatr y Sherman); The Scandal at Mayerling (Scottish Ballet); Anne of Green Gables (London Children’s Ballet); Passion (Hope Mill Theatre); Firebird Reimagined (McNicol Ballet Collective); A Hero of the People (Theatr y Sherman); Faust+Greta (Theatr Genedlaethol Cymru/Frân Wen); The Merthyr Stigmatist (Theatr y Sherman/Theatre Uncut); Why Are People Clapping? (NDCW); Llyfr Glas Nebo (Frân Wen); Dextera (Scottish Ballet); Woof (Theatr y Sherman).

Fel cydymaith ifanc: Romeo and Juliet (Matthew Bourne’s New Adventures).

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.