Ei Gadw'n Lleol

Gyda phanto Nadoligaidd Theatr Torch Jack and the Beanstalk yn ei anterth, mae ei ysbryd cymunedol yn fwy amlwg eleni nag erioed o’r blaen. Gydag actorion lleol, criw llwyfan lleol a chefnogaeth leol gan gwmnïau cyfagos, gan gynnwys Valero ac Elder Meadows Nursery, mae’r cynhyrchiad teuluol blynyddol yn hanfodol i bawb y Nadolig hwn.

Mae Lloyd Grayshon – y cofiadwy Mrs Trott, Freya Dare sy’n chwarae’r cŵl Agatha Fleshcreep a Samuel Freeman fel Terrence Fleshcreep – oll o orllewin Cymru, gyda Samuel o dref Aberdaugleddau ei hun. Mae gan Gareth Elis, sy'n chwarae rhan y prif gymeriad, Jack Trott, gysylltiadau â Hendy-gwyn ac mae Carri Munn (Pat y Fuwch) yn rhan o deulu'r Torch ar ôl iddi berfformio ar lwyfan y Torch eleni yn Tachwedd / The Slaughter (Theatre 503). Mae Elena Carys-Thomas fel Fairy Gabby Greenfingers yn dychwelyd yn dilyn cyfnod gyda Theatr Ieuenctid y Torch.

Dywedodd Chelsey Gillard, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Torch:

“Rwy’n teimlo ei bod yn bwysig bod gan lawer o’n hactorion a’n tîm creadigol gysylltiad lleol yn enwedig gan eu bod yn cynnwys cyfeiriadau lleol yn y panto – mae Jack yn dod o Hakin wedi’r cyfan! Mae hefyd yn bwysig i’n cynulleidfaoedd, yn enwedig pobl ifanc, weld pobl fel y nhw ar y llwyfan.

“Yn y Torch rydyn ni’n helpu pobl o bob oed i ddatblygu eu creadigrwydd ac rydyn am i’n cynulleidfaoedd wybod bod unrhyw beth yn bosibl, p’un a ydych chi eisiau bod yn feddyg, yn driniwr gwallt, yn beiriannydd neu hyd yn oed yn actor.”

Dechreuodd Samuel Freeman ei yrfa actio yn y Torch ar ôl bod yn aelod gweithgar o’r Theatr Ieuenctid.

“Mae bob amser yn teimlo fel anrhydedd mawr iawn i weithio yn y Torch. Rydym yn ffodus iawn i gael theatr yn Aberdaugleddau sy’n cynhyrchu gwaith gwreiddiol, yn ogystal â derbyn cynyrchiadau teithiol o safon uchel, sinema a darllediadau byw. Roedd tyfu i fyny gyda hyn reit ar garreg fy nrws yn rhan annatod o fy nghariad at y theatr. Cefais fynediad i raglen theatr ieuenctid wych y Torch, gan roi cyfle i mi gael profiad o berfformio mewn lleoliad proffesiynol pan yr oeddwn yn iau.

“Mewn ffordd, mae pethau’n teimlo eu bod nhw wedi mynd yn gylch llawn. Mae'n anodd rhoi mewn geiriau cryno faint o lawenydd a balchder y mae'n ei roi i mi i fod ar yr union lwyfan y bûm yn ei wylio, yn dymuno bod yn rhan ohono. Mae Sir Benfro yn frith o dalent a diwylliant, ac mae’n golygu’r byd i mi barhau â’r etifeddiaeth honno o gelfyddyd wych yn ein rhan ryfeddol o’r byd.”

Mae Freya Dare, a oedd yn is-astudiwr pennaf ym mhantomeim Theatr Torch o Beauty and the Beast, yn astudio rolau Belle, Mam Belle a’r Fairy Shadowmist wrth ei bodd yn cefnogi ei theatr leol.

Dywedodd Freya: “Mae mor arbennig perfformio yn y theatr sbesial hon sy’n golygu cymaint i mi. Rwyf wrth fy modd fy mod yn adnabod ac yn gweithio gyda rhai o aelodau’r gynulleidfa ac yn teimlo’n gyffrous i ddod â llawenydd a hwyl i gymuned rwy’n meddwl cymaint amdano.”

Gellir gweld Jack and the Beanstalk ar lwyfan Theatr Torch o nawr tan ddydd Sul 29 Rhag 2024 gyda pherfformiadau prynhawn a min nos. Pris tocyn: £23.50 | £19.50 Consesiynau | £75.00 Teulu. Perfformiad BSL - Dydd Mawrth 17 Rhagfyr am 6pm.

I archebu eich tocynnau neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.