Dyrchafol, gyda chalon fawr ac yn hynod ddoniol – sioe un-dyn na ellir ei cholli yn dod i'r Torch
Am un noson yn unig, cewch eich syfrdanu, cewch eich ysbrydoli wrth i chi glywed hanes cyfeillgarwch rhyfeddol yn cael ei ffurfio pan fydd James, bachgen unig, anhapus yn ei arddegau, yn creu cwlwm cryf â’r hen wraig frawychus a oedd yn byw yn y tŷ arswydus ar ei stryd.
Mae’r sioe un dyn newydd sbon, galonogol a doniol hon ‘Learning to Fly’ yn addo noson ogoneddus ac amharchus yn Theatr y Torch gydag un o storïwyr mwyaf clodwiw’r DU.
Ar nos Fercher 28 Chwefror, bydd y storïwr, awdur a pherfformiwr poblogaidd James Rowland yn eich syfrdanu â pherfformiad a fydd yn aros gyda chi am byth. Mse James, sy’n fwyaf adnabyddus am ei drioleg Songs of Friendship – Team Viking, A Hundred Different Words For Love and Revelations – wedi ennill canmoliaeth sylweddol gan y beirniaid, gan deithio’r DU ac yn rhyngwladol am bedair blynedd, cyn cael ei gyhoeddi gan Oberon Books. Mae’r cyfan yn cynnwys ei gymysgedd cyfareddol o gomedi, cerddoriaeth ac adrodd straeon, ac mae ei sioeau wedi teithio’n llwyddiannus i leoliadau gwledig anghysbell a theatrau rhanbarthol blaenllaw.
“Mae’n ymwneud â chysylltiad, waeth beth fo’r rhwystrau; am frwydr dragwyddol cariad ag amser; am gerddoriaeth a'i gallu i wella. Mae hefyd yn ymwneud â’i dymuniad olaf: bod ar gyffuriau unwaith cyn iddi farw,” meddai James sy’n edrych ymlaen at ymweld â Sir Benfro.
Sylwch, addas ar gyfer oed: 13+ (rhai themâu oedolion, cyfeiriadau at ddefnyddio cyffuriau).
Caiff Learning To Fly ei pherfformio yn Theatr y Torch ar nos Fercher 28 Chwefror am 7.30pm. Tocynnau i Oedolion: £15 a Chonsesiwn: £13. Gellir prynu tocynnau o Theatr y Torch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu drwy glicio yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.