YDYCH CHI’N FFANSIO EICH HUN FEL ADOLYGYDD THEATR?
Ydych chi'n mwynhau gweld ffilmiau a chynyrchiadau o bob genre yn eich theatr leol? Ydych chi'n cymryd nodiadau o fanylion pwysig am ffilm ... yr elfennau technegol, ei chymeriadau a'i llinellau stori? Efallai eich bod chi awydd gweld eich hun fel beirniad? Os felly, hoffai Theatr y Torch, Aberdaugleddau glywed gennych chi!
Ar hyn o bryd, mae gan Theatr y Torch ddau adolygydd rheolaidd sy'n ysgrifennu am sioeau a ffilmiau y maent wedi'u gweld yn y Torch. Yna caiff eu hadolygiadau eu cyfieithu i’r Gymraeg a chyhoeddir y ddau fersiwn ar wefan y Theatr i bawb eu darllen.
Mae Val Ruloff o Benfro wedi bod yn adolygydd Theatr y Torch ers bron i flwyddyn. Mae hi wir yn mwynhau ymweld â'r Torch ac ysgrifennu ei barn i eraill ei darllen.
“Mae’n brofiad newydd i mi a does gen i ddim cefndir newyddiadurol. Rwy'n mwynhau gwylio perfformiadau yn fawr a gobeithio bod fy marn yn werthfawr iawn i bobl eraill ei darllen. Mae’r Torch yn bwysig iawn yma yn Sir Benfro a phan holwyd i mi a allwn wneud rhai o’m sylwadau ac i roi fy adborth, cytunais ac mae’r cyfan wedi mynd o’r fan honno,” meddai Val.
Riley, 12 oed, yw ein hadolygydd ieuengaf. Mae’n mwynhau gwylio ffilmiau newydd, yn enwedig rhai actol sy’n llawn cyffro megis Guardians of the Galaxy Volume 3 a Spiderman Across the Spiderverse. Ei adolygiad cyntaf erioed oedd Matilda the Musical.
“Rwyf wrth fy modd yn cyfrannu at Theatr y Torch. Mae'n wych gweld fy adolygiadau ar y wefan, ac mae’n grêt bod pobl yn cymryd fy nghyngor ar ba ffilm i'w gwylio. Mae fy athrawon a ffrindiau yn yr ysgol yn darllen fy adolygiadau ac yn mynd i'w gweld oherwydd fy adolygiad innau ac mae hynny'n deimlad da iawn. Mae’n dda bod yn rhan o rywbeth i’w hyrwyddo,” meddai Riley sy’n methu aros i’r ffilm Transformers newydd gael ei rhyddhau’n fuan er mwyn iddo allu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni i gyd!
Mae Theatr y Torch yn chwilio am fwy o bobl frwdfrydig i adolygu dramâu, sioeau a ffilmiau ar eu cyfer fel yr eglura Chelsey Gillard, Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Torch:
“Hoffem i sbectrwm eang o bobl â diddordebau amrywiol ddod yn feirniaid ac yn adolygwyr. Yn gyfnewid am eu hadolygiadau (y maent yn eu e-bostio atom ychydig ddyddiau ar ôl eu hymweliad) maent yn cael un tocyn am ddim (dau os yw'r adolygydd o dan 16) i ddod i sioeau/ffilmiau o'u dewis. Mae wir yn gyfle gwych i gyhoeddi eu hadolygiadau ar-lein i bawb eu gweld. Byddant hefyd yn cael eu gwahodd i nosweithiau’r wasg ar gyfer cynyrchiadau’r Torch.”
Ymunodd Chelsey â Theatr y Torch yn 2022 ac oni bai am ei hoffter o adolygu cynyrchiadau theatr, gallai ei gyrfa fod wedi cymryd llwybr arall yn hawdd.
“Dechreuais adolygu sioeau am y tro cyntaf pan oeddwn yn 19 oed. Roeddwn wedi gadael y brifysgol a doeddwn i ddim yn gwybod i ba gyfeiriad roeddwn i eisiau mynd gyda fy mywyd. Sefydlwyd cynllun yn fy nhref enedigol i weld sioe a'i hadolygu a'i llofnodi. Y sioe oedd Love Steals Us From Loneliness gan Gary Owen a lwyfannwyd gan National Theatre Wales mewn clwb roc lleol. Hwn oedd y tro cyntaf i mi weld ysgrifennu newydd neu weld sioe mewn gofod theatr anhraddodiadol. Dw i’n meddwl bod Gary dal heb faddau i mi am yr adolygiad (sori Gary!),” chwarddodd Chelsey.
“Fe wnaeth gweld nifer o sioeau ar draws de Cymru ddal fy nychymyg ac fe wnes i fynd yn ôl i’r brifysgol i astudio Saesneg a Drama. Gwelais y fath amrywiaeth o sioeau a ddatblygodd fy chwaeth artistig yn wirioneddol ac mae yna sioeau a welais dros 10 mlynedd yn ôl yr wyf yn dal i gyfeirio atyn nhw yn fy mhrosesau ymarfer tan heddiw. Datblygais fy meddwl beirniadol, a rhoddodd wir werthfawrogiad i mi o'r holl elfennau gwahanol sy'n rhan o wneud sioe.
“Nawr fel cyfarwyddwr dw i wir yn gwerthfawrogi adolygiadau o fy ngwaith. Rwy’n credu y dylai theatr fod yn sgwrs gyda’r gynulleidfa, felly mae’n wych cael gwybod beth mae pobl yn ei feddwl. Weithiau gall pobl eraill weld pethau mewn sioe nad ydych erioed wedi sylwi arnyn nhw o’r blaen neu roi gwerthfawrogiad newydd i chi o themâu penodol yn y ddrama. Gall brifo pan ddaw adolygiadau negyddol i’r golwg, ond mae'n rhaid i mi atgoffa fy hun na allwch chi blesio pawb a bod celf yn oddrychol!" meddai Chelsey.
Os hoffech chi ddod yn adolygydd yn Theatr y Torch, cysylltwch gyda Charlotte Spencer ar charlotte@torchtheatre.co.uk
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.