DINOSAUR ADVENTURE LIVE

Paratowch eich hunain ar gyfer amser T-rrex-iffig yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau wrth i’r sioe gyn-hanesyddol orau ar y ddaear ymweld â’r theatr ym mis Awst! Mae RED Entertainment wrth ei fodd i gyhoeddi bod y sioe deuluol hoffus Dinosaur Adventure Live yn teithio eto yn 2023 ac yn ymweld â ni yma yn Sir Benfro. Bydd yr antur deuluol ryfeddol, wyllt hon yn swyno’r ifanc a’r ifanc eu calon.

Mae Dinosaur Adventure Live yn trochi cynulleidfaoedd mewn byd hudolus a realistig o ddinosoriaid. Byddwch yn teithio i fyd y dinosoriaid yn yr antur newydd sbon hon a fydd yn mynd â chi ar daith ryngweithiol fythgofiadwy trwy'r oes Jwrasig, gan eich cyflwyno i rai o'r rhywogaethau mwyaf anhygoel a droediodd y ddaear erioed.

Wedi'i hysgrifennu gan Mike Newman (Exciting Science), mae'r stori wedi'i gosod mewn labordy sydd wedi gordyfu ar ynys dinosoriaid. Yn cynnwys dau geidwad dinosoriaid arbenigol a gwyddonydd rhyfedd tu hwnt, ysglyfaethwr dieflig, dau ddinosor bach annwyl, Apatosaurus enfawr ac wrth gwrs TRex dychrynllyd, mae gan y sioe elfennau addysgol a chomig drwyddi draw. Profwch y wefr o gwrdd â deinosoriaid tebyg i fywyd go iawn a theimlwch ruo taranllyd T-Rex yn agos atoch.

Dysgwch am eu hanes a hyd yn oed cael y cyfle i’w bwydo! Ond byddwch yn ofalus - efallai y byddwch chi ar y fwydlen yn y pen draw! Mae Dinosaur Adventure Live, sioe awr o hyd, wedi bod yn cael ei chreu ers 65 miliwn o flynyddoedd... Ydych chi'n barod am yr antur?

Yr oedran a argymhellir yw pump a throsodd gydag yn ôl- sioe gyfarch am ddim.

Bydd DINOSAUR ADVENTURE LIVE yn ymweld â Theatr y Torch ar ddydd Gwener 25 Awst am 2pm a 4.30pm. Tocynnau: £15. Gellir prynu tocynnau o’r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Torch ar 01646 695267 neu drwy glicio yma.

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.