Deinosoriad yn Troedio i'r Torch!
Mae cwmni RED Entertainment wrth ei fodd i gyhoeddi bod Dinosaur Adventure Live yn ôl ar daith ledled y DU yn 2024 ac yn paratoi am amser rhuog yn Theatr Torch yr haf hwn. Mae gan y sioe deulu hoffus hon dri Deinosor newydd a stori newydd sbon sy'n ei gwneud yn sioe na allwch ei cholli!
Bydd y sioe antur deuluol ryfeddol, wyllt hon yn swyno'r ifanc a'r rheiny sy’n ifanc eu calon wrth iddi drochi ei chynulleidfaoedd i fyd hudolus a realistig o ddeinosoriaid, gyda chyfle i’w cyfarfod yn rhad ac am ddim ar ddiwedd y perfformiad.
Yn addas ar gyfer rheiny pump oed a hŷn a phawb arall, byddwch yn teithio i fyd o ddeinosoriaid byw, sy’n anadlu, tebyg i fywyd yn yr antur RHUOG newydd sbon hon. Bydd yn eich cludo ar daith ryngweithiol fythgofiadwy trwy'r oes Jwrasig, gan eich cyflwyno i rai o'r rhywogaethau mwyaf anhygoel a droediodd y Ddaear erioed.
Wedi'i hysgrifennu gan Mike Newman (Exciting Science), mae'r stori wedi'i gosod mewn labordy sydd wedi gordyfu ar ynys deinosoriaid. Pan fydd llosgfynydd hynafol yr ynys yn dechrau cyffroi, mae'n peri perygl i bawb - gan gynnwys y Deinosoriaid! Yn cynnwys dau geidwad sy’n arbenigo mewn deinosoriaid a gwyddonydd gwallgof, ysglyfaethwr rhuog, dau ddeinosor bach annwyl, apatosaurus syfrdanol, Spinosaurus ysblennydd, Pterodactyl p-gwych ac wrth gwrs T-Rex dychrynllyd, mae gan y sioe elfennau addysgol a chomig drwyddi draw.
Profwch y wefr o gwrdd â Deinosoriaid tebyg i fywyd go iawn a theimlwch ruo taranllyd T-Rex yn eich cyffroi. Dysgwch am eu hanes a hyd yn oed eu bwydo ond byddwch yn ofalus - efallai y byddwch chi ar y fwydlen yn y pen draw!
Dinosaur Adventure Live, sioe sydd wedi bod yn cael ei chreu ers 65 miliwn o flynyddoedd... Ydych chi'n barod am yr antur yma yn Sir Benfro?
Bydd Dinosaur Adventure Live: Trouble on Volcano Island yn cael ei pherfformio yn Theatr Torch ar ddydd Mercher 31 Gorffennaf am 2pm a 4.30pm. Tocynnau: £16.00 | £58.00 Teulu. Tocynnau Parth Perygl (2 Rhes Flaen): £19.00 | £70.00 Teulu. I archebu eich tocynnau neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.