Dilyniant War Horse, Farm Boy, yn dod i'r Torch

Mae Lichfield Garrick wrth ei bodd i gyhoeddi mai’r actorion Alan Booty a Jonathan Houlston fydd yn arwain cast Farm Boy ar daith o amgylch y DU sydd ar ddod, addasiad o'r dilyniant poblogaidd i un Syr Michael Morpurgo War Horse. Wedi’i haddasu a’i chyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig y lleoliad, Daniel Buckroyd, bydd y ddrama glodwiw hon, sydd wedi teithio’r DU yn flaenorol a’i throsglwyddo i Efrog Newydd, yn cael ei pherfformio yn Theatr Torch, ddydd Iau 22 Mai, am 2pm a 6pm fel rhan o’i Thaith ledled y DU.

Farm Boy yw dilyniant Michael Morpurgo o’i gampwaith annwyl, War Horse. Mae Morpurgo yn ei alw’n ‘stori gartref’, wedi’i leoli yn y bwthyn lle mae’n byw yn Nyfnaint, ar y fferm lle mae’n byw, ac yn seiliedig ar bobl go iawn y mae wedi dod ar eu traws. Mae’r naratif calonogol a chymhellol hwn yn talu teyrnged i’r genhedlaeth a ymladdodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, y byd y daethant adref iddo a sut yr effeithiodd y gwrthdaro hwnnw arnyn nhw.

Mewn sgwrs ddiweddar gyda Buckroyd, sydd ar gael i’w gweld ar wefan Garrick, siaradodd Morpurgo am sut mae technoleg yn torri ar draws perthnasoedd rhwng pobl hŷn ac iau y dyddiau hyn a sut mae mamgus a thadcus ac wyrion yn treulio llai o amser yn rhannu straeon. Mae Lichfield Garrick yn gobeithio y gall ei gynhyrchiad o Farm Boy ddod â theuluoedd ynghyd i rannu’r stori hon sy’n atseinio mor gryf ar draws y cenedlaethau.

Ar ôl gweld y sioe, dywedodd Capable Child Blog: “Mae gan y cynhyrchiad hwn stori sy’n eich bachu a’ch swyno wrth ei graidd”, gyda Behind The Arras yn ei ddisgrifio fel “Perl ddisglair o gynhyrchiad.”

Alan Booty fydd yn chwarae rhan Grandpa. Mae ei yrfa yn cynnwys cynyrchiadau yn y National Theatre, Chichester Festival Theatre a gyda llu o gwmnïau theatr rhanbarthol a theithiol, yn ogystal ag ar deledu a ffilm. Mae ei rolau wedi amrywio o King Lear yn Theatr Brockley Jack yn 2019 i Hermann mewn rhediad diweddar o’i ddrama ei hun ‘The Loaf’ gyda Pogo Theatre a gafodd ganmoliaeth fawr.

Mae Alan wrth ei fodd yn adennill ei rôl ac yn edrych ymlaen at ddod â'r straeon anhygoel y mae Grandpa yn eu hadrodd yn fyw i gynulleidfaoedd teuluol.

Jonathan Houlston fydd yn chwarae rhan Grandson. Wedi graddio'n ddiweddar o’r Royal Birmingham Conservatoire, mae eisoes wedi adeiladu cyfoeth o brofiad llwyfan, ar ôl chwarae rhan Sidney Barnsley yn 'The Making of Lucy' ac Ian yn 'Holes.' Mae ei waith ar y sgrin yn cynnwys prif westai cofiadwy yn 'Doctors' i'r BBC, ac fel un o sylfaenwyr Mad Dragon Theatre Company fe berfformiodd yn ei gynhyrchiad cyntaf o'i ddrama ei hun 'Physical Education'.

Peidiwch â cholli’r cyfle i ymuno ag Alan a Jonathan ‘lawr ar y fferm’ ar gyfer y sioe hardd, hynod glodwiw hon sy’n codi stori Albert a Joey lle mae War Horse yn gorffen ac yn paentio hanes anghofiedig am y newid yn wyneb bywyd yng nghefn gwlad Lloegr.

Bydd FARM BOY ar lwyfan Theatr Torch ar ddydd Iau 22 Mai am 2pm a 6pm. Tocynnau'n £15. Ewch i’r wefan am fwy o fanylion www.torchtheatre.co.uk / ffoniwch y Swyddfa Docyannau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.