DEWCH I GWRDD AG ELYOT YN 'PRIVATE LIVES'
Dros yr ychydig wythnosau nesaf bydd Theatr y Torch yn eich cyflwyno fesul un i gast Private Lives(Noel Coward) a fydd yn cyrraedd ein llwyfan o ddydd Mercher 4 Hydref am gyfnod o dair wythnos … Y cyntaf yw Francois Pandolfo fel Elyot …
Nid oes angen unrhyw gyflwyniad ar Francois. Wedi ymddangos yn Eastenders, Casualty a Doctor Who, mae hefyd ganddo lu o brofiad ar lwyfan, gan ymddangos yn Wuthering Heights(Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth), Double Vision (Canolfan Mileniwm Cymru/Gagglebabble) a The Magic Flute (Opera Cenedlaethol Cymru).
Mae e hefyd wedi ymddangos yn Big Boys (Channel 4), The Tuckers (BBC Wales), Wasted(Angel Eye Media), Gwaith Cartref- Series 8 (Fiction Factory ar gyfer S4C), Doctors, Doctor Who, Baker Boys (BBC) a Tati’s Hotel (ITV) gyda’i gredydau ffilm yn cynnwys G-Flat (BBC Cymru), Cardiff (Iris), Skinny Fat (BBC/Ffilm Cymru), A Son of War (Anifilic Studios), The Rezort (Matador Pictures) a So Christian Youth (Bubblehead Productions)
Rheda Private Lives am dair wythnos yn Theatr y Torch, gan agor ar ddydd Mercher 4ydd Hydref (noson y wasg ar ddydd Iau 5ed) tan ddydd Sadwrn 21 Hydref ac mae’n falch o fod yn rhan o Ŵyl COWARD125 Sefydliad Coward, dathliad bywyd rhyfeddol Coward yn y cyfnod cyn pen-blwydd Coward yn 125 yn 2024.
I archebu tocynnau, ewch i Swyddfa Docynnau Theatr y Torch https://www.torchtheatre.co.uk/private-lives/ Neu ffoniwch y swyddfa Docynnau ar 01646 695267.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.