Dewch i gwrdd â Shaun Ryder ...
Dewch i gwrdd â Shaun Ryder: Rydw i wedi byw bywyd gwyllt ond mae bywyd yn dechrau yn 60 oed – yma yn Theatr Torch nos Sadwrn 5 Ebrill.
Mae’n ddyn gwyllt o roc, yn foi sy’n gwneud i Mick a Keith edrych fel wannabes, seren y mae ei archwaeth am sex’n’drugs’n’rock’n’roll mor llawn â dyhead alcoholig am wisgi.
Mae Shaun Ryder bellach yn dweud ei ddweud, y cyfrinachau, a’r hyn sydd i wybod am enwogion…
Felly, dyweda wrthym, Shaun: beth yw beth: “Mae gen i rychwant sylw pysgodyn aur, yr anallu i gynllunio'n rhy bell ymlaen, ond barn rydw i'n barod i'w rhannu ar bron popeth. A diolch byth fod gennym ni ryddid i lefaru o hyd yn ein gwlad ni, oes e?
“Mae fy llyfr a thaith newydd – Happy Mondays – a Fridays and Saturdays and Sundays yn daith epig o Manchester i Mastermind, Brasil i Barbados, llosg haul Sbaen i garthffosydd Salford. Fe ddywedaf rai gwirioneddau sydd mor annhebygol y byddwch chi'n gwybod na allant fod wedi'u creu."
Felly, pwy yn union yw Shaun Ryder?
“Wel, os wyt ti’n credu Wikipedia, dw i’n ganwr, yn gyfansoddwr ac yn fardd Saesneg – yn ffigwr blaenllaw ym myd diwylliant Manceinion ar ddiwedd yr 1980au a’r 1990au. Ond roedd hynny dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl nawr – felly mae llawer mwy i’r stori hir a throellog hon na hynny. Dw i wedi aeddfedu … tipyn!
“Roedd yna amser yn arfer bod pan oeddwn yn rociwr gwallgof a oedd yn mynd ar sioeau teledu oddi ar fy mhen ar heroin. Rwy’n dal i gael llawer o hwyl o dan y sbotolau, boed hynny gyda’r Happy Mondays, Black Grape, neu fel perfformiwr unigol, ond y dyddiau hyn rwyt ti yr un mor debygol o ddod o hyd i mi yn chwythu’r gwe pry cop oddi arnai yn reido fy meic, gwylio teledu gyda fy ffrind gorau Bez, neu’n dal i fyny ar Corrie yn fy sliperi.”
Partïon drwy'r nos?
“Maen nhw yn y gorffennol. Os nad ydw i allan yn gweithio, rydw i'n ymlacio yn y gwely erbyn 11pm y dyddiau hyn. Wel, mae'n rhaid i ni i gyd aeddfedu ychydig weithiau, onid oes? Ydw i'n colli'r hen ddyddiau? Roedden nhw’n amseroedd gwych na fyddwn i’n sicr wedi’u colli i’r byd, ond na, dydw i ddim. Mae hynny yn y gorffennol, ond dyma nawr. Dw i wedi bod heb gyffuriau ers mwy na 10 mlynedd bellach, ac nid wyf erioed wedi bod yn hapusach.
A dy lyfr newydd?
“Os wyt ti’n wangalon neu’n cael dy bechu’n hawdd, byddwn yn awgrymu i ti loncian ymlaen, gwneud paned o goco llaethog i ti dy hun, a gwylio pyliau o’r gyfres ddiweddaraf o Antiques Roadshow yn lle hynny oherwydd byddaf yn ymweld â chuddfannau crac y Caribî, yn dod ar draws pethau arallfydol, ac yn eich arwain trwy fy mywyd pleseryddol, prysur ac weithiau uffernol ym myd cerddoriaeth ac adloniant.
“Efallai nad oes gennyf unrhyw wallt, aeliau nag amrannau y dyddiau hyn. Efallai fy mod ar gymaint o dabledi fel fy mod yn ysgwyd pan fyddaf yn cerdded. Ond dw i’n dal yn llawn egni a chyffro am beth bynnag sydd i ddod. Dyma fy nhaith, fy atgofion, fy marn… a gyflwynir yn fy ngeiriau di-hid fy hun.”
Mae’n swnio’n wyllt. Ac mae e.
“Nid yr ysgol oedd yr unig le i ddysgu gwersi pwysig am fywyd; roedd y gwaith carthffosiaeth lleol yn lle addysgiadol iawn hefyd. Roeddem yn arfer dringo dros ffensys a mynd i mewn yno, i brocio o gwmpas a gweld beth y gallem ddod o hyd iddo. Mae'n anhygoel yr hyn y gallwch chi ei ddysgu am systemau treulio pobl! Dyma lle darganfyddais mai un o'r unig bethau na all y corff dynol ei dreulio yw hadau tomato. Digwyddodd pan welais dwnnel carthffosiaeth mawr 20 troedfedd o led am y tro cyntaf yn llawn tomatos, yn edrych fel pen ôl anferth. Roedd yn dipyn o olygfa. Beth oedd fy meddwl cyntaf? Gallem gymryd y rhain a’u gwerthu… byddent yn gwneud gwrtaith naturiol gwych.
“Roeddwn ni bob amser yn grwt ifanc drygionus, ac fe gollais i’r nifer o weithiau y byddai’r heddlu yn dod i’n tŷ ni. Roedd fy nhad yn hen ffasiwn go iawn, ac rwy'n cofio dod adref o'r ysgol un diwrnod i weld yr heddlu yn curo ar y drws ffrynt. Cerddais i fyny tuag at y tŷ, gyda fy mag Adidas, ac gweld fy nhad ar garreg y drws ffrynt yn siarad â nhw – yn gwisgo dim byd ond ei bants Y-porffor acrylig gyda chwyrliadau arnyn nhw.
“Gwelodd e fi'n dod i fyny'r ffordd a rhedodd amdana i, aeth ar fy ôl yr holl ffordd i lawr Madams Wood Road, ar draws y cae, ac yn y diwedd, fy nal. Fe roddodd e grasfa go iawn i mi… wedyn roedd rhaid cerdded yr holl ffordd yn ôl drwy’r stad mewn dim byd ond y pants porffor.”
Ac mae llawer mwy!
Am fanylion pellach, cliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.