Dewch i ddarllen am hanes Callie-May a'i phrofiadau yn Theatr Ieuenctid y Torch

Mae Callie-May yn aelod o Theatr Ieuenctid y Torch yma yn y Torch. Dechreuodd ei thaith gyda Ieuenctid Torch pan oedd tua wyth oed. Darllenwch isod i weld faint mae Callie-May wedi mwynhau mynychu’r sesiynau hyn ….

Helo, Callie-May yw’r enw ac rwy'n aelod o Theatr Ieuenctid y Torch yng ngrŵp pedwar yma yn y Theatr. Dechreuodd fy nhaith gyda Ieuenctid y Torch pan oeddwn i tua wyth oed ac fe wnes i barhau nes oeddwn, oddeutu, 10 mlwydd oed ac yna ymunais yn ôl yn ddiweddar yn nhymor yr haf 2023. Felly, gallaf ddweud yn uniongyrchol pa mor wych yw Ieuectid y Torch ar gyfer pob grŵp oedran. Rydych chi'n cael cyfarfod â phobl o bob cefndir ac yn cael rhyngweithio â'r grwpiau oedran eraill sy'n wych wrth i chi ddysgu pethau newydd gan bobl iau a hŷn. Mae Ieuenctid y Torch wedi galluogi i mi fagu cymaint o hyder dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr i bobl ifanc Sir Benfro i gadw’r grefft o actio’n fyw.

Ar ddechrau tymor mis Medi 2023, dechreuodd grŵp pedwar (14-18 oed) ddrama o’r enw ‘Replica’ a roddwyd i ni gan National Theatre Connections. Roedd hwn yn brofiad anhygoel i mi a gweddill y criw wrth i ni berfformio tair noson yn stiwdio Torch yma yn y Torch, a byddwn hefyd yn perfformio hwn yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ym mis Ebrill sy’n gyfle gwych i ni. Ar ddiwedd y noson agoriadol, cawsom gyfweliad gan un o weithwyr y National Theatre Connections a gwnaethom roi adborth iddo. Roedd hwn yn brofiad gwych wrth i ni ddod i wybod ei adborth ef ond hefyd rhoi ein hadborth ein hunain iddo ef ynghylch sut roeddem yn teimlo, a gallai efallai ei helpu yn y dyfodol. Roedd hyn yn hwyl gan i ni gael siarad ag oedolyn sy'n ymwneud â theatr fel gyrfa ac fe wnes i fwynhau clywed ei feddyliau.

Yn wythnosol, mae grŵp pedwar yn cyfarfod ar nos Fercher o 7:30pm tan 9:30pm, mae rhai dyddiau Mercher yn cynnwys darllen trwy sgriptiau neu ddysgu am sioe ond ar ddiwrnodau eraill rydym yn dysgu am wahanol arddulliau theatr. Er enghraifft, nôl ym mis Rhagfyr fe wnaethom ddysgu am theatr gair am air a helpu i wneud rhai cyfweliadau ar gyfer drama Ceri Ashe a wnaeth ddigwydd yn ddiweddar. Ond rhai dyddiau rydyn ni’n mwynhau bod gyda ffrindiau theatr leol ac yn chwarae gemau drama fel ‘killford slayven’ – un o fy ffefrynnau personol. O’r enw, gallwch ddychmygu ei bod yn ymwneud ag Aberdaugleddau. Mae’n gêm ddirgelwch llofruddiaeth (mae Tim yn falch iawn o'r enw) ond mae yna lawer o gemau eraill i ddewis ohonyn nhw. Rydyn ni hefyd yn gwneud amryw o ymarferion gwaith tîm. Mae Ieuenctid y Torch yn anhygoel os ydych chi am wneud ffrindiau newydd neu hyd yn oed gael ychydig o hwyl gyda grŵp o bobl â'r un diddordeb.

Os ydych chi am gynyddu eich hyder, cwrdd â phobl newydd a chreu cyfeillgarwch newydd a theimlo'n fwy cyfforddus yn eich hun, mae Ieuenctid y Torch yn rhywbeth rydw i'n ei argymell i chi. Tim Howe yw ‘pennaeth’ y pedwar grŵp ac mae’n eu harwain ar ddiwrnodau penodedig. Mae Tim wir yn ased i Ieuenctid y Torch ac mae wedi creu llawer o sioeau Ieuenctid llwyddiannus. Mae wedi bod yn wych cael bod yn rhan ohonyn nhw. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y tymhorau sydd i ddod a chyfleoedd National Theatre Connections yn y dyfodol.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.