Dathliad o’r Môr yn y Torch

Plymiwch i ddiwrnod a noson o ddigwyddiadau a dathliadau, ac amlygu’r cysylltiad sydd gan bobl â’r môr yng Ngŵyl y Môr gyntaf un yn y DU sy’n cynnwys arddangosfa gelf a fforwm yn Theatr Torch, Aberdaugleddau. Wedi'i drefnu gan Fforwm Arfordirol Sir Benfro a Milford Youth Matters bydd Y Môr a Ni / The Sea and Us yn arddangos yr amgylchedd morol o amgylch Sir Benfro gydag amrywiaeth o weithgareddau.

Bydd Gŵyl y Môr yn Aberdaugleddau yn dechrau ar ddydd Sadwrn 8 Mawrth ar Mackerel Quay, Milford Waterfront cyn heidio am Theatr Torch ar ddydd Sul 9 Mawrth am 11am a diweddu gyda Fforwm Arfordirol Byw Sir Benfro blynyddol am 7pm.

Bydd Theatr Torch yn fwrlwm o weithgarwch trwy gydol y dydd gyda chyfle i gwrdd ag amrywiaeth o werthwyr o Ganolfan Darwin, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ymddiriedolaeth y Môr, y Cyngor Astudiaethau Maes a Phrosiect Cleddau ar eu stondinau yn ardaloedd cymunedol y theatr. Dewch i ddarganfod gwybodaeth am  blastigau morol gydag Ymddiriedolaeth y Môr cyn mynd yn grefftus a chreu eich trysor plastig morol eich hun yn y prif awditoriwm. Ymunwch â’r artist, Fran Evans, yn ystod ei sesiynau celf a chrefft yn y theatr stiwdio cyn mynd ar daith i fyd y môr o gwmpas Sir Benfro i ddarganfod sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio – a gynhelir yn y prif awditoriwm.

Trochwch eich dwylo yng nghwmni Câr y Môr a helpwch i wneud bio-wrtaith o wymon. Plymiwch i ryfeddodau’r dyfnder gyda ffotograffydd morol, deifiwr ac awdur gwobrwyedig Lou Luddington a fydd hefyd yn arddangos ei blatfform adrodd straeon cefnfor newydd cyffrous. Bydd Mark Burton yn trafod llu o bynciau o falod i adar drycin a llamhidyddion i forloi wrth iddo ddwyn i gof ei amser ar Ynys Sgomer cyn i chi fynd I Fforwm Arfordirol Sir Benfro 2025 yn y prif awditoriwm.

Mae Fforwm Arfordirol Sir Benfro yn cynnal ei gystadleuaeth ffotograffau ‘Arfordir Byw’ flynyddol, lle gwahoddir ffotograffwyr o bob oed a lefel sgil i dynnu ffotograff o harddwch ac amrywiaeth arfordir Sir Benfro. Mae gan y gystadleuaeth bedwar categori: ‘Bywyd Gwyllt - Plant’, ‘Bywyd Arfordirol - Plant’, ‘Bywyd Gwyllt - Oedolion’ a ‘Bywyd Arfordirol -Oedolion’. Bydd cynigion yr enillwyr a’r rhai a ddaeth yn ail orau, yn cael eu cyhoeddi ddydd Sul 9 Mawrth, ac yn cael eu harddangos yn Oriel Joanna Field yn Theatr Torch, ochr yn ochr â gwaith Milford Youth Matters.

Ewch am dro ar yr ochr wyllt drwy’r arddangosfa gelf yn Theatr Torch drwy gydol mis Mawrth fel rhan o Ŵyl y Môr – digwyddiad cyntaf Strategaeth Llythrennedd Cymru Ocean Y Môr a Ni a lansiwyd yn ddiweddar. Cynlluniwyd Y Môr a Ni gan Gynghrair Llythrennedd Cefnfor Cymru a Phartneriaeth Arfordiroedd a Moroedd Cymru ehangach.

Darganfyddwch y byd tanddwr cudd sy'n amgylchynu arfordir Cymru trwy gelf leol, straeon a ffotograffiaeth gwobrwyedig; dawnsiwch y diwrnod i siantis môr traddodiadol Cymreig a chael eich ysbrydoli i wneud sblash i'n moroedd wrth gwrdd â siaradwyr gwadd a cherdded o amgylch rhai o stondinau lleol Sir Benfro.

Cynhelir Gŵyl y Môr, Aberdaugleddau ar ddydd Sadwrn 8 Mawrth ar Mackerel Quay, Milford Waterfront ac yn Theatr Torch ar ddydd Sul 9 Mawrth am 11am gyda Fforwm Arfordirol Byw Sir Benfro blynyddol am 7pm.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Theatr Torch www.torchtheatre.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.