THE ROYAL OPERA: DAS RHEINGOLD
Ydych chi'n gefnogwr Royal Opera? Ydych chi'n mwynhau gweithiau Wagner? Yna bydd Das Rheingold, a ddengys yn Theatr y Torch y mis Medi hwn yn ticio eich holl focsys cerddorol. Gyda chynnig arbennig Theatr y Torch o brynu unrhyw bum teitl o dymor 23/24 y Royal Opera House neu Operâu MET a chael y pumed teitl am hanner pris – beth sydd ddim i’w hoffi?
Mae Das Rheingold, sy'n cael ei chanu yn Almaeneg gydag isdeitlau Saesneg, yn gweld celc gwerthfawr o aur yn cael ei ddwyn o'r afon Rhein. Mae'n rhyddhau cadwyn o ddigwyddiadau dinistriol, gan osod duwiau a meidrolion yn erbyn ei gilydd am genedlaethau.
Mae cylch Wagner’s Ring yn brolio peth o’r gerddoriaeth orau a ysgrifennwyd erioed ar gyfer y llwyfan opera. Ymunwch â ni wrth i ni gychwyn ar daith ysblennydd i fyd myth, breuddwydion a chof, gyda ffigwr Erda – y Fam Ddaear ei hun – yn ganolog iddi.
Antonio Pappano sy’n arwain dychmygiad beiddgar Barrie Kosky o Das Rheingold gan Wagner – sy’n nodi dechrau cylch Wagner’s Ring newydd ar gyfer The Royal Opera – gyda chast rhagorol gan gynnwys Christopher Maltman (Wotan) a Christopher Purves (Alberich).
CYNNIG ARBENNIG tan 1 Hydref: Prynwch unrhyw bum teitl o'r Royal Opera House neu'r MET Opera yn ystod tymor 23/24, a mynnwch y pumed teitl hanner pris.
Caiff Das Rheingold gan y Royal Opera House ei sgrinio yn Theatr y Torch ar ddydd Sul 24 Medi am 2pm.Tocynnau’n £20 | £18.00. O dan 26: £9. Gellir prynu tocynnau o Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar 01646 695267 neu drwy glicio yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.