SEREN TELEDU A RADIO DALISO CHAPONDA YN DOD I'R TORCH!

Wedi ei ddisgrifio fel ‘hot property’ gan yr Evening Standard, mae terfynwr Britain’s Got Talent a seren BBC Radio 4’s Citizen of Nowhere Daliso Chaponda yn dychwelyd i’r llwyfan gyda sioe newydd slic, sy’n rhoi’r olwg fwyaf miniog ar fywyd ac mae’n dod i’r Torch yn y flwyddyn newydd!

Mae’n deg dweud nad aeth 2020-2021 yn unol â’r cynllun ar gyfer y digrifwr, yr awdur a’r sylwebydd gwrthgymdeithasol Daliso… ond perfformiodd ar-lein yn feunyddiol i filiynau o wylwyr, a dyma’ch cyfle i weld beth mae’r meistr dychan hwn wedi bod yn ei baratoi ar gyfer ei sioe newydd Daliso Chaponda: Apocalypse Not Now.

Mae gan Daliso gefnogwyr ar draws y byd wedi iddo gael ei weld a’i glywed ar The Royal Variety Performance 2020 (ITV), Britain’s Got Talent 2017 (ITV), Britain’s Got Talent Champions 2019 (ITV), QI (BBC2) a The Apprentice: You’re Fired (BBC2) i enwi ond y rhai. Gyda thros 300 miliwn o bobl yn gweld ei gomedi ar ei sefyll ar-lein, mae Daliso hefyd yn awdur, creawdwr, ac yn westeiwr ar Rose d’Or, sioe BBC Radio 4 a enwebwyd sef Citizen of Nowhere sydd wedi ymddangos am ddwy gyfres.

Daeth Daliso Chaponda i enwogrwydd ar Britain’s Got Talent, gan gyrraedd rownd derfynol cyfres 2017. Sefydlodd ei hun yn ffefryn mawr gyda’r beirniaid a’r cyhoedd ym Mhrydain a daeth yn seren Facebook a YouTube gyda dros 200 miliwn o bobl yn gweld ei berfformiadau.

Mae wedi perfformio ar draws y byd ac yng ngwyliau comedi Caeredin, Melbourne, Singapôr a Cape Town. Mae hefyd wedi teithio’r DU ddwywaith gan werthu pob tocyn i gynulleidfaoedd ac wedi derbyn adolygiadau gwych.

Mae Daliso Chaponda: Apocalypse Not Now yn addas i’r rheiny 14 mlwydd oed a hŷn. Bydd y diddanwr arbenigol Daliso yn dod â'i frawddegau bachog a miniog a'i gagiau crefftus i'r Torch ar ddydd Sadwrn 21 Ionawr 2023 am 8pm. Gellir archebu tocynnau o Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar 01646 695267 neu torchtheatre.co.uk.

Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i weld y ‘sioe ddeallus, fedrus’ fel y disgrifir gan The List. Tocynnau’n £15.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.