Cyngerdd Maastricht André Rieu 2024: Power of Love

Mae André Rieu, ‘Brenin y Walts,’ yn barod i'ch chwythu i ffwrdd gyda'i gyngerdd sinema newydd sbon ‘Power of Love’ a fydd yn cael ei sgrinio yn Theatr Torch ar nos Sadwrn 31 Awst a phrynhawn dydd Sul 1 Medi. O’i dref enedigol hardd, Maastricht, mae’r feiolinydd a’r arweinydd adnabyddus yn cyflwyno sioe ar y sgrin fawr y mae’n rhaid ei gweld.

Gyda’i Gerddorfa Johann Strauss fyd-enwog a chast o gannoedd, mae hwn yn argoeli i fod yn ddigwyddiad cerddorol yr haf gan un o artistiaid mwyaf toreithiog y byd.

Mewn cyngerdd sy’n llawn angerdd, mae repertoire unigryw André yn cyfuno’r clasurol, sioeau cerdd, pop a roc! Mae'n rhaid i chi weld y sioe i'w chredu.

Wedi’i gosod yn erbyn cefndir sgwâr hanesyddol Vrijthof bydd André yn eich syfrdanu â sgorau ffilm eiconig, waltsiau hardd, baledi dagreuol ac alawon poblogaidd annisgwyl – mae gan gerddoriaeth y pŵer i uno ac mae hwn yn gyngerdd i’r teulu cyfan.

Dewch i ni fwynhau cerddoriaeth André gyda’n gilydd a lledaenu’r cariad ar draws Sir Benfro. Peidiwch â cholli André Rieu ‘Power of Love’ a welir mewn sinemâu yn unig yr haf hwn.

I archebu eich tocynnau ar gyfer y dangosiad o André Rieu’s Maastricht Concert: ‘Power of Love’ ar  nos Sadwrn 31 Awst am 7pm a phrynhawn Sul 1 Medi am 2pm yma yn Theatr Torch, neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma. Tocynnau pris llawn: £20 / £19.00 consesiwn.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.