CYHOEDDIAD CAST – PRIVATE LIVES YN Y TORCH

Mae’r disgwyl mawr bron â gorffen … Mewn llai na phedair wythnos, bydd Theatr y Torch yn Aberdaugleddau yn fwrlwm o hudoliaeth y 1930au gyda Private Lives gan Noel Coward ar ei llwyfan. Heddiw, mae’r Theatr yn cyhoeddi ei chast ar gyfer y gomedi dywyll ffrwydrol hon, gyda dyraniad ffraeth bythol o ryw, priodas a chonfensiwn cymdeithasol.

Cyn-fyfyriwr Aberystwyth Claire Cage fydd yn chwarae rhan Amanda. Mae ei chredydau teledu yn cynnwys Coronation StreetSherlock ac Emmerdale. Mae hi wedi gweithio gyda National Theatre Wales ac wedi cymryd rhan yn nrama Re-Live ‘Perthyn’ ar y cyd â Theatr y Torch, felly bydd yn wyneb cyfarwydd i rai.

Jude Deeno (Alice In Wonderland, cyfarwyddwyd gan Paul Elsam a Family Album, Stephen Joseph Theatre, cyfarwyddwyd gan Sir Alan Ayckbourn) sy’n chwarae Victor. Mae Jude eisoes wedi gweithio gyda Chyfarwyddwr Artistig Theatr y Torch Chelsey Gillard ym Mhrifysgol Coventry yn Scarborough lle bu’n gweithio gyda hi yn ystod ei hyfforddiant ac mae’n “dros ben llestri o falch” o fod yn gweithio gyda hi eto am y tro cyntaf yn ei yrfa broffesiynol.

Meddai: “Dyma fy nhro cyntaf yn y Torch ac rwyf wir yn mwynhau mas draw! Mae Private Lives yn ffraeth ac rwyf wedi darganfod fy hun yn chwerthin lot fawr yn ystod ymarferion. Mae wedi bod yn bleser.” 

Yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf yn y Torch fel Sybil, mae’r actor a’r awdur Paisley Jackson o dde Cymru, enillydd Bwrsariaeth Laurence Olivier, wedi graddio’n ddiweddar o Grŵp Awduron Theatr y Sherman, The Royal Court Introduction i Playwrighting Group a Lleisiau Cymraeg y BBC. Mae hi wedi gweithio gyda chwmnïau megis Dirty Protest a National Theatre Wales.

Y pedwerydd, a'r actor olaf yw Francois Pandolfo fel Elyot. Wedi ymddangos yn Eastenders, Casualty a Doctor Who, mae ganddo hefyd gyfoeth o brofiad ar lwyfan, yn ymddangos yn Wuthering Heights (Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth), Double Vision (Canolfan Mileniwm Cymru /Gagglebabble) a The Magic Flute (Opera Cenedlaethol Cymru).

Rheda Private Lives am dair wythnos yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau. Gan agor ar ddydd Mercher 4ydd Hydref (noson y wasg dydd Iau 5ed) tan ddydd Sadwrn 21 Hydref ac mae’r Theatr yn falch o fod yn rhan o Ŵyl COWARD125 gan Sefydliad Coward, sef dathliad dwy flynedd o fywyd rhyfeddol Noël yn y cyfnod cyn ei ben-blwydd yn 125 yn 2024.  

I archebu tocynnau, ewch i Swyddfa Docynnau Theatr y Torch https://www.torchtheatre.co.uk/private-lives/Neu ffoniwch neu ewch i'r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267. 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.