Cyhoeddi Cast Mwww-felŷs

Deufis yn unig sydd i fynd cyn bod llwyfan Theatr Torch yn fwrlwm o ffa gwyrdd, pasteiod llus blasus, buwch laeth dalentog a choesyn ffa yn ymdroelli’n uchel i’r awyr, ac mae’r cast ar gyfer pantomeim Nadoligaidd Jack and the Beanstalk wedi’i gyhoeddi, ac ni allwn aros!

Bydd wynebau lleol a thalent leol yn arwain y ffordd ar gyfer y pantomeim eleni, gan gynnwys Samuel Freeman fel bachgen drwg Terrence Fleshcreep, Lloyd Grayshon fel y Fonesig cariadus Titania Trott a Freya Dare fel Agatha Fleshcreep cyfeiliornus. Mae’r tri actor o Sir Benfro yn gyfarwydd iawn â llwyfan Theatr Torch gan ymddangos ym mhantomeim y Torch, sef Beauty and the Beast, a dorrodd record y llynedd.

Mae’r artist dawns/drama cymunedol Freya yn rhedeg ei chwmni theatr plant ei hun yma yn y sir a bu’n ymddangos fel y Swing yn Beauty and the Beast, gan astudio pob rôl yn y sioe. Mae Lloyd yn falch iawn o fod yn dychwelyd i lwyfan y Torch y Nadolig hwn yn un o’i hoff bantomeimiau! Bydd Samuel, a aned ac a fagwyd yn Aberdaugleddau, yn gwneud ei bumed ymddangosiad yn Theatr Torch, yn dilyn Beauty and the Beast, Cinderella, Sleeping Beauty ac Of Mice and Men. Mae'n gyffrous i fod yn dychwelyd i'r Torch nid yn unig ar gyfer y pantomeim ond hefyd ar gyfer mis Mai nesaf pan fydd yn dychwelyd gyda The Mumford & Sons Story: Awake My Soul.

Bydd Carri Munn yn ymddangos fel Pat y Fuwch. Yn actores, awdures, cyfarwyddwr a digrifwr stand-yp a aned yng Nghaerdydd, mae Carri wrth ei bodd i ddychwelyd i’r Torch, ar ôl perfformio yma sawl gwaith ac yn fwyaf diweddar gyda Tachwedd (Theatre 503). Yn ymuno â Carri ar y llwyfan fel Fairy Gabby Greenfingers bydd Elena Thomas sydd wedi gweithio ym myd teledu, ffilm, theatr a radio. Yn ddiweddar cwblhaodd daith genedlaethol gyda The Cherry Orchard yn chwarae Varya ar gyfer cynyrchiadau Here to There. Ochr yn ochr â’i gwaith actio, mae Elena hefyd wedi perfformio fel dawnsiwr ac wedi gweithio fel coreograffydd i S4C a Theatr y Sherman.

Ac yn olaf, ond yn sicr nid lleiaf, bydd Gareth Elis yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf erioed yn Theatr Torch fel arwr ein stori, Jack Trott. Yn wyneb cyfarwydd ar Stwnsh ar S4C, mae Gareth wedi ymddangos mewn cynyrchiadau i amryw o gwmnïau gan gynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru, Cameron Mackintosh, Arad Goch a Leeway Productions ac wedi gweithio dramor yn Seoul.

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Torch, Chelsey Gillard:

“Rydw i wrth fy modd i fod yn gweithio gyda chast mor dalentog. Bydd angen help y gynulleidfa arnom wrth gwrs i guro’r cawr, felly rydym angen i chi ddod draw yn barod i fwio, hisian a bloeddio. Mae llawer o gyfleoedd i ymuno – mae y tu ôl i chi! Ac ni fyddai’n banto heb ddigon o chwerthin gwirion i’r rhai ifanc a llawer mwy a fydd yn mynd dros eu pennau i ddifyrru’r oedolion.”

Bydd Jack and the Beanstalk yn ymddangos ar lwyfan Theatr Torch o ddydd Gwener 13 Rhag - Sul 29 Rhag 2024 gyda pherfformiadau prynhawn a min nos. Pris tocyn: £23.50 | £19.50 Consesiynau | £75.00 Teulu. Perfformiad Amgylchedd Hamddenol ddydd Sadwrn 14 Rhagfyr am 2pm. Perfformiad BSL - Dydd Mawrth 17 Rhagfyr am 6pm.

I archebu eich tocynnau neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.