Cronfa Cyfoethogi Sir Benfro yn Dod â Llawenydd i Blant Ysgol

Mae prosiect Cronfa Cyfoethogi Sir Benfro, gyda chymorth rhaglen adfywio Cyngor Sir Penfro, wedi’i ganmol yn llwyddiant ysgubol gan blant ysgol Ysgol Gynradd Gymunedol Aberdaugleddau. Ar gwrs 11 wythnos, gyda Theatr Torch wrth y llyw, bu arbenigwyr celfyddydol yn cyflwyno tymor o sesiynau celfyddydau mynegiannol gan ddod i glo gyda’r bobl ifanc yn rhannu eu gwaith caled mewn perfformiad yn theatr stiwdio’r Torch.

Bu tîm proffesiynol Theatr Torch yn gweithio gyda disgyblion blwyddyn 5 yr ysgol ar brosiect ysgrifennu dramâu a dylunio theatr yng nghwmni’r dramodydd, Katie Elin Salt a’r dylunydd theatr, Ruth Stringer. Cynlluniwyd y gweithgarwch creadigol i gefnogi’r ysgol i ddatblygu sgiliau ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu pobl ifanc.

Creodd y plant ddrama epig o’r enw Awduron Enwog a oedd yn caniatáu i bob dosbarth archwilio gwahanol agweddau ar fywyd hoff awdur. Yn llawn troeon dramatig ac yn cynnwys propiau a gwisgoedd ysblennydd wedi’u gwneud â llaw, y cyfan wedi’u creu gan y bobl ifanc eu hunain, agorodd y prosiect ddrysau i nifer.

Dywedodd tri chwarter y plant y byddent yn argymell y prosiect i grwpiau blwyddyn eraill yn yr ysgol fel yr eglura Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned yn y Torch:

“Rydym mor falch bod y prosiect yn llwyddiant. Nododd dros dri chwarter y plant yn y prosiect hwn eu bod yn fwy tebygol o ysgrifennu mwy o straeon ar ôl cwblhau'r prosiect; disgrifiodd dros hanner y plant eu sgiliau ysgrifennu fel rhagorol neu dda o ganlyniad i’r prosiect hwn a disgrifiodd bron hanner y plant eu sgiliau cyflwyno fel rhagorol neu dda.”

Dywedodd Rhian Johnson Arweinydd Blwyddyn 5 ac Arweinydd Celfyddydau Mynegiannol yn Ysgol Gynradd Gymunedol Aberdaugleddau:

“Rwyf mor falch o’r daith greadigol y mae ein myfyrwyr wedi bod arni. Dros dymor yr Hydref, roedden nhw wedi plymio i mewn i ysgrifennu sgriptiau a chreu propiau, ac adeiladu sgiliau allweddol mewn llythrennedd, dylunio, a chydweithio. Roedd gweithio gyda gweithwyr creadigol proffesiynol yn eu hysbrydoli ac yn agor eu llygaid i bosibiliadau theatr. Roedd diweddglo eu gwaith caled, a ddangoswyd ar lwyfan Theatr Torch, yn adlewyrchiad cywir o’u creadigrwydd a pha mor benderfynol yr oeddent. Mae'r profiad hwn nid yn unig wedi cyfoethogi eu dysgu ond hefyd wedi eu helpu i ddatblygu meddwl beirniadol a gwaith tîm - y sgiliau y byddant yn mynd gyda hwy i’r dyfodol."

Gofynnwyd y cwestiwn agored i’r plant: “Dywedwch wrthyf beth ddysgoch chi o brosiect Theatr Torch.” Soniodd tua chwarter y bobl ifanc am ba mor ddewr yr oedd yn gwneud iddynt deimlo neu’r dewrder a roddodd iddynt siarad o flaen pobl. Siaradodd nifer tebyg o bobl ifanc am bwysigrwydd creadigrwydd a dychymyg a siaradodd 20% ohonynt am waith tîm a gweithio gyda phobl eraill.

Dywedodd un o’r disgyblion a wnaeth ymgymryd â’r prosiect: “Rydw i wir wedi mwynhau gweithio gyda Theatr Torch y tymor hwn gan fod y Torch wedi fy helpu i ddeall sut mae drama’n cael ei rhoi at ei gilydd.”

Ychwanegodd Tim: “Roedden nhw’n hynod ddadansoddol yn hyn gyda rhai’n sôn am bethau cadarnhaol, ac eraill yn trafod sut wnaethon nhw oresgyn problemau a gyflwynwyd trwy weithio mewn tîm.

“Rydym yn gwybod bod darparu’r cyfle hwn i’r plant a’r staff wedi cael effaith ystyrlon a pharhaol. Nid yn unig y gwnaeth ein pobl ifanc wella eu sgiliau llythrennedd, ond rydym hefyd yn gobeithio ei fod wedi rhoi dyheadau iddynt fod yn rhan o’r sector creadigol. Ac efallai un diwrnod fe fyddan nhw’n ysgrifennu dramâu ar gyfer Theatr Torch.”

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.