Croeso Cynnes i Fabis Mewn Breichiau yn y Torch
Caiff ymyriadau gan fabis swnllyd, sy’n llefain, yn sgrechian a thorri gwynt eu caniatáu yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau wrth i ddigwyddiad 2024 o Fabis a Ffilmiau Poblogaidd gael ei lansio ar ddydd Iau 25 Ionawr.
Ni fydd unrhyw un yn crychu talcen ar thad-cuod a mam-guod a rhieni gyda babis yn eu breichiau wrth iddyn nhw wylio ffilm newydd y flwyddyn hon - ‘What Happens Later’ mewn amgylchedd hamddenol.
Mae Jordan Dickin, Cynorthwyydd Gweithredol Theatr y Torch yn gobeithio gweld awditoriwm â chefnogaeth dda. Dywedodd:
“Weithiau gall rhieni a thad-cuod a mam-guod deimlo’n niwsans pan fydd eu plant a’u hwyrion yn gwneud sŵn yn ystod ffilm. Gallant deimlo'n hunanymwybodol gan boeni am dorri ar draws eraill o'u cwmpas. Mae’r dangosiadau hyn wedi’u cynllunio i fod yn hamddenol a chroesawgar a does dim ots os yw’ch babi’n llefain neu angen ei fwydo gan fod pawb yn y gynulleidfa yn yr un sefyllfa. Mae hefyd yn rhoi cyfle i rieni weld y ffilmiau diweddaraf pan fyddant yn teimlo nad ydynt byth yn cael y cyfle i wneud hynny.”
Dechreuodd Babis a Ffilmiau Poblogaidd yn y Torch ychydig ar ôl i'r pandemig covid leddfu ac mae niferoedd y gynulleidfa'n amrywio o fis i fis. Er hynny, gyda lansiad newydd Babis a Ffilmiau Poblogaidd, mae Theatr y Torch yn edrych ymlaen at groesawu wynebau hen a newydd.
Gan gloi, meddai Jordan: “Bydd yn wych gweld rhieni sydd â babis newydd a thad-cuod a mam-guod sydd yn gofalu am fabis newydd yn mynychu. Bydd y Ciosg ar agor hefyd a bydd te, coffi a chacennau ar gael.”
Dengys ffilmiau Poblogaidd unwaith y mis ar fore dydd Iau, gyda thocynnau yn £5 a does dim tâl am fabis! Mae’r arlwy hyd yn hyn yn cynnwys dangosiad o ‘The Colour Purple’ ar ddydd Iau 29 Chwefror gyda mwy o ffilmiau i ddilyn yn fisol.
Caiff y ffilm gyntaf yn y gyfres ei darlledu yn Theatr y Torch ar fore dydd Iau 25 Ionawr am 11am. Tocynnau i Oedolion: £5. Babis am ddim. Am docynnau ewch i Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar 01646 695267 neu cliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.