GWEITHDAI YSGRIFENNU CREADIGOL

Mae Theatr y Torch yn falch o gyhoeddi ein bod yn cynnig cyfle i bobl ifanc ac oedolion ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu dramâu ac ysgrifennu creadigol fesul cyfres o weithdai. Bydd y rhain yn digwydd o dan arweiniad ein tîm mewnol arbenigol yn ystod hanner tymor mis Chwefror.

Credwn bod gan bawb stori i'w hadrodd, ac rydym am eich helpu chi i rannu'ch un chi!

Nid oes angen unrhyw brofiad ar gyfer y naill na’r llall o’r cynlluniau hyn, ac rydym yn annog pobl o bob cefndir i gymryd rhan.

Cynhelir ein sesiwn oedolion i bawb 18+ mlwydd oed ar ddydd Sul 19 Chwefror o 1pm tan 6pm.

A oes gennych chi stori yr hoffech chi ei throsi’n ddrama, ond nid oes syniad gennych ble mae dechrau? Neu a ydych chi'n chwilfrydig am sut y caiff dramâu eu hysgrifennu. Ymunwch â ni ar gyfer y gweithdy hanner diwrnod creadigol hamddenol hwn lle byddwn yn eich tywys trwy egwyddorion dechrau ysgrifennu ac yn eich cyflwyno i'r camau cyntaf ar y ffordd i ddod yn ddramodydd. O dan arweiniad ymarfer proffesiynol, edrychwn ar dechnegau ysgrifennu, yn ogystal â rhoi'r cyfle i chi rannu eich syniadau gyda’r grŵp a chael yr olygfa gyntaf a’r cymeriad anodd hwnnw i lawr ar bapur.

Cost y sesiwn yw £20.

Archebwch eich lle(oedd) drwy gysylltu â thîm y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267.

Mae croeso i bobl ifanc 15 – 18 mlwydd oed hefyd ymuno â ni ar Ddydd Llun 20, Dydd Mawrth 21 a Dydd Mercher 22 Chwefror o 10yb – 4yp.

Mae’r sesiynau’n ategu astudiaethau TGAU a Lefel ac wedi’u cynllunio i gefnogi datblygiad sgiliau llythrennedd a llafaredd trwy ysgrifennu dramâu. Rydym yn dod ag ymarfer ysgrifennu dramâu proffesiynol a’n cyfranogwyr at ei gilydd mewn sesiynau creadigol, chwareus a heriol, sy’n ceisio meithrin llais y bobl ifanc.

Y gost am y tridiau hyn yw £50.

Cynhelir yr holl weithgaredd yma yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech drafod y sesiynau cyn cofrestru, cysylltwch â Tim – tim@torchtheatre.co.uk.

Mae lleoedd yn gyfyngedig felly archebwch eich lle yn gynnar i osgoi cael eich siomi.

Archebwch eich lle(oedd) drwy gysylltu â thîm y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267.

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.