Tîm Torch yn Heidio am Safle’r Sioe Sirol

Wrth i drefnwyr Sioe Amaethyddol Sir Benfro baratoi ar gyfer y digwyddiad deuddydd yr wythnos hon, mae aelodau o Dîm y Torch hefyd yn eu hanterth yn paratoi i gyfarfod a chyfarch cwsmeriaid hen a newydd o’u stondin ar faes y sioe.

Ar ddydd Mercher 14 a dydd Iau 15 Awst, bydd stondin Theatr Torch, a leolir ym Mhabell Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau (ger y Neuadd Fwyd) yn fwrlwm i blant ac oedolion fel ei gilydd. Gall y rheiny sy’n ymweld â'r stondin wisgo i fyny a chael tynnu eu llun yn y bwth lluniau gyda phropiau a gwisgoedd a ddefnyddiwyd mewn cynyrchiadau blaenorol Theatr Torch, a hynny o flaen cefnlen ddisglair. Bydd gweithgarwch crefft hefyd i'r bobl ifanc er mwyn iddyn nhw fod yn greadigol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Theatr Torch, Chelsey Gillard:

“Mae’n hanfodol bwysig bod Theatr Torch yn mynd allan i’r gymuned ac yn mynychu Sioe Sir Benfro, y sioe ddeuddydd fwyaf yn y sir. Mae’n gyfle gwych i arddangos yr hyn rydym yn ei wneud yma yn y Torch yn Aberdaugleddau ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol.”

Bydd dydd Mercher a dydd Iau hefyd yn gweld lansiad swyddogol dychweliad cynhyrchiad gwreiddiol gwobrwyedig Theatr Torch sef 'Grav' a fydd yn cael rhediad cyfyngedig yn Theatr Torch fis Hydref eleni i ddathlu ei 200fed sioe a 10 mlynedd ers ei perfformiad cyntaf. Wedi teithio ledled y byd, mae’r sioe un dyn gyffrous hon yn seiliedig ar fywyd y chwaraewr rygbi, actor, eicon diwylliannol, tad, a gŵr – Ray Gravell. Gŵr â bywyd yn llawn straeon sy’n haeddu cael eu clywed unwaith eto ar y llwyfan ac ar y cae rygbi.

Ychwanegodd Chelsey: “Am ffordd i ddathlu 200fed perfformiad Grav nag yma yn Theatr Torch, lle dechreuodd y cyfan 10 mlynedd yn ôl. Mae’r cynhyrchiad wedi teithio’r byd, a gellir ei weld yma lle dechreuodd y cyfan yn y Torch o 9-11 Hydref gyda Noson Gala i ddathlu’r 200fed Perfformiad ar ddydd Sadwrn 12.”

Bydd y gystadleuaeth dylunio set ar gyfer pobl ifanc hyd at 18 oed hefyd yn cael ei lansio yn y sioe ar gyfer y pantomeim Nadoligaidd blynyddol – eleni Jack and the Beanstalk.

Rhywle yn Cloudland, yn ddwfn yng nghanol castell y Cawr mae ystafell arbennig iawn. Ystafell yn llawn gwrthrychau euraid hardd. Mae'r gwrthrychau hyn yn amhrisiadwy, wedi'u gorchuddio â'r patrymau mwyaf ysblennydd, ac wedi'u haddurno â thlysau a gliter. Er hynny, nid yw'r trysorau hyn yn perthyn i'r Cawr, maent yn perthyn i bawb i lawr yma ar y ddaear, ac mae Jac am eu cael yn ôl!

Ond beth ar y ddaear yw'r gwrthrychau hyn, pa siâp ydyn nhw, o beth maen nhw wedi'i wneud? Rydyn ni angen i'ch pobl ifanc feddwl am bethau sy'n werthfawr iddyn nhw a dylunio gwrthrych arbennig ysblennydd i Jac ei achub rhag y Cawr! Yn wirion neu'n synhwyrol rydyn ni am eu gweld nhw - gallai fod yn frwsh toiled euraid? Yn X-Box diemwnt? Neu a yw'n sychwr gwallt emrallt? Chi sydd i ddychmygu...

Gallai'r lluniau dylunio fod ar unrhyw ffurf. Gellir eu gwneud o ludwaith o ddelweddau a gweadau, toriadau allan o gylchgronau, stribedi o ddeunydd, wedi’u creu ar y cyfrifiadur neu gallent gael eu tynnu â llaw – gadewch i ddychymyg y bobl ifanc fynd ar garlam.

Mae tri chategori oedran: Dan 5, 5 – 10 ac 11 – 18. Caiff yr enillydd ei ddewis o bob categori, a bydd enillydd cyffredinol yn gweld eu dyluniad yn cael ei wneud yn wrthrych go iawn ar gyfer y pantomeim. Bydd yr holl ddyluniadau yn cael eu harddangos yng ngofod Oriel Joanna Field yn Theatr Torch yn ystod mis Rhagfyr. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 4 Hydref 2024.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.