THEATR Y TORCH YN MYNYCHU EI SIOE SIROL

Mae mynd allan yn y gymuned a chwrdd â phobl yn rhywbeth y mae Theatr y Torch wrth ei bodd yn ei wneud, a phleser oedd cael stondin yn Sioe Amaethyddol Sir Benfro eleni.

Wrth ymuno â Phorthladd Aberdaugleddau ym mhabell Marchnad Glannau Aberdaugleddau, roedd gan Theatr y Torch stondin am gyfnod y sioe ddeuddydd, gyda’i thîm marchnata wrth y llyw yn cyfarfod ac yn cyfarch ymwelwyr ac yn eu cynghori am sioeau’r Theatr sydd ar ddod.

Mae Chelsey Gillard, Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Torch yn esbonio ei fod yn gyfle gwych i ymgysylltu â’r cyhoedd:

“Roedd Theatr y Torch yn falch iawn o ymuno â Phorthladd Aberdaugleddau yn Sioe Sir Benfro eleni. Mae ein tîm wrth eu bodd yn mynd o amgylch y sir, yn cysylltu â gwahanol bobl ac yn lledaenu’r gair am yr holl weithgareddau gwych sy’n digwydd yn y Torch.”

Rhoddodd y stondin gyfle i ymwelwyr weld pa ddramau theatrig o safon uchel a theyrngedau trydanol sydd gan Theatr y Torch i’w cynnig. Roedd hefyd yn gyfle i’r Theatr arddangos ei gwaith ieuenctid a chymunedol hanfodol.

“Roedd cael stondin yn Sioe Sir Benfro yn gyfle arbennig i gwrdd â’n cefnogwyr. Fe wnaethom hyrwyddo ein cynyrchiadau megis Private Lives a Beauty and the Beast a braf oedd cwrdd â phawb,” meddai Charlotte Spencer, Uwch Reolwr Marchnata Theatr y Torch.

Mae gan Theatr y Torch gynlluniau i ddatblygu ei stondin ar gyfer Sioe Sir Benfro y flwyddyn nesaf drwy gyflwyno prosiect cynnwys y gymuned ac mae cynlluniau ar y gweill i’w wneud yn ddigwyddiad mwy a chynhwysol i bawb.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.