DINOSAUR ADVENTURE LIVE
Bydd artistiaid o Sir Benfro yn eich hwylio i ffwrdd i le dymunol iawn o baradwys yn Theatr y Torch fis Gorffennaf gyda’u harddangosfa o’r enw Convergence – Prints and Paintings yn seiliedig ar arfordir a thraethau’r sir. Gellir gweld paentiadau'r artistiaid Anne Kerr a Theresa Pateman yn Oriel Joanna Field yn y Torch o Orffennaf 5 i 28 ac mae’n arddangosfa na ddylid ei cholli.
Mae Anne yn peintio o’i chof yn ei stiwdio, gan feddwl am yr hyn sy’n gwneud y lle’n unigryw i’w baentio, a sut y gall ddal ei naws.
“Mae fy ymateb i beintio’r tirluniau wedi datblygu dros nifer o flynyddoedd ers graddio o Brifysgol Derby yn 2001 lle astudiais Therapïau Celf. Trwy ddefnyddio gwahanol ddeunyddiau yn reddfol i gyfleu syniad, mae hyn yn golygu trin ac archwilio’r gofod darluniadol yn union fel y broses o archwilio’r dirwedd gychwynnol,” esboniodd Anne.
Yn dilyn astudio celf yn Thurrock, a Coventry School of Art and Design, mae Theresa, sydd wedi ei dylanwadu gan ymweliadau aml ag Arfordir Penfro, yn gweithio o’i stiwdio yn Hwlffordd.
Gweithiodd fel dylunydd ffrilans gan ddefnyddio torlun leino a monoprint, argraffiad ar gyfer artistiaid, a dysgu am dechnegau ysgythriad. Ynghyd â grŵp o gyd-raddedigion, dyfarnwyd Grant Ymddiriedolaeth y Tywysog iddi i sefydlu Gweithdy Sgrin Sidan ac o’r diwedd sefydlodd ei stiwdios ysgythru ei hun yng Ngweithdai Kingstgate, Kilburn.
Ar hyn o bryd mae Theresa’n addysgu gwneud print yn Hampstead School of Art ac yn ei stiwdio. Mae’n perthyn i galeri Printmakers a redir gan artistiaid a The Printmakers Council.
Gan arddangos ei gwaith ar draws y DU gan gynnwys yn y Royal Academy, Mall Galleries: “Originals” & “Bite” a’r Barbican, mae gwaith Theresa yn cynnwys casgliadau yn y V&A, Metropolitan University, Scarborough Art Gallery Archive ac yn fyd-eang.
Bydd Arddangosfa Convergence: Prints and Paintings gan Anne Kerr a Theresa Pateman yn Oriel Joanna Field o Orffennaf 5 i’r 28 gyda digwyddiad preifat ar nos Iau 6 Gorffennaf o 6-8pm.
Am fwy o wybodaeth croeso i chi anfon e-bost at: deerland.studio@gmail.co / theresapateman@hotmail.com
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.