Yn Galw Ar Holl Gefnogwyr Comedi!
Bydd gwledd yn disgwyl cynulleidfaoedd Theatr Torch fis Hydref a Thachwedd eleni wrth i'r Comedy Club - Clwb Comedi ddod i'r dref. Gydag artistiaid adnabyddus yn ymddangos ar y ddwy noson, ac yn cael eu rhaglennu ar y cyd â Little Wander, y bobl y tu ôl i Ŵyl Gomedi eiconig Machynlleth, paratowch eich hun am ddwy noson o chwerthin hollti-bol.
Cynhelir noson Gomedi gyntaf y Comedy Club – Clwb Comedi ar nos Sadwrn 26 Hydref am 7.30pm gyda’r ail noson, a gwahanol actau ar nos Wener 29 Tachwedd am 7.30pm.
Ar y noson gyntaf, mae Theatr Torch yn croesawu Dan Jones, (MC) o Brighton: enillodd Dan wobr Breakthrough Comedian of the Year yng ngwobrau Comic Newydd Cenedlaethol Amused Moose 2019, a hefyd rownd derfynol Act Newydd y Flwyddyn gyda Rising Star yn yr un flwyddyn. Ef hefyd oedd Digrifwr Newydd yn Ffeinal Leicester Square 2022 ac fe’i disgrifiwyd gan Rhod Gilbert fel un “Yn bendant i’w wylio.”
Yn ymuno â Dan bydd y ‘Welsh delight’ Anna Thomas – Enillydd Digrifwr Newydd y Flwyddyn y BBC, 2021 ac fe’i henwebwyd ar gyfer Gwobr Sean Lock ar Channel 4, 2023. Mae Anna Thomas yn ddigrifwraig arobryn, sy’n hanu’n wreiddiol o Sir Gaerfyrddin.
Mae’r gwobrwyedig Paul F Taylor, un o berfformwyr stand-yp mwyaf cyffrous a nodedig y DU gyda’i frand unigryw o hiwmor yn asio brawddegau bach un llinell hynod ddi-flewyn-ar-dafod gydag ehediadau arsylwadol swrrealaidd i effaith ffantastig. Bydd ef hefyd yn ymddangos ar lwyfan y Torch fis Hydref eleni. Wedi’i enwebu’n Act Newydd y Flwyddyn NATY ac yn fwy diweddar digrifwr yr wythnos gyda GQ Magazine, mae persona Paul o ffŵl dryslyd coll yn eistedd yn berffaith ochr yn ochr â’i syniadau swynol gwallgof. Cyd-ysgrifennodd a pherfformiodd Paul yn The Claudia Winkelman Show ar BBC Radio 2.
Bydd ail noson y Comedy Club-Clwb Comedi ddiwedd mis Tachwedd yn croesawu Sam Williams (MC) – digrifwr, awdur ac actor gwobrwyedig o Maidenhead. Mae ei frand bywiog o standyp cyffesol wedi cael canmoliaeth ar y gylched fyw, gan ennill Gwobr Comedi Newydd Komedia yn 2023, cyn gwneud ei ymddangosiad cyntaf ar y teledu ar raglen New Comedy Awards BBC Three yn yr un flwyddyn.
Yn 2024 mae ar fin ymddangos ar Dymor 6 o Standup Sketch Show ITV2, ac mae wedi cael ei ddewis ar gyfer y Pleasance Comedy Reserve, un o sioeau cymysg mwyaf mawreddog y Fringe. Mae ei gredydau ysgrifennu yn cynnwys Late Night Mash (Dave), Almost Never (CBBC), Newsjack (4Xtra), a Breaking The News (BBC Radio Scotland).
Nesaf fydd Amy Mason, a ddisgrifiwyd gan Bridget Christie fel “Comic o eiliad ei genedigaeth. Dw i ddim yn gallu aros i weld ei chynnydd i fod yn0 drysor cenedlaethol.' Mae Amy yn ddigrifwr, yn awdur ac yn wneuthurwr theatr sy'n perfformio comedi ar draws y DU. Wedi cyrraedd rownd derfynol Funny Woman, mae gan Amy nifer o brosiectau teledu yn cael eu datblygu gyda chwmnïau cynhyrchu, mae hi wedi ysgrifennu a pherfformio 2 fonolog ar gyfer Radio 4 ac wedi ysgrifennu ar gyfer The News Quiz and Hypothetical (Dave). Mae hi wedi gwneud 3 sioe hunangofiannol glodwiw gyda Bristol Old Vic ac mae ganddi gomisiwn datblygu cyfredol gyda'r theatr. Yn 2014 enillodd Amy Wobr Lyfrau Rhyngwladol Dundee gyda’i nofel The Other Ida.
Ac yn olaf, ond yn bendant nid y lleiaf - Harriet Dyer (fel y gwelwyd ar Rosie Jones’ Disability Comedy Extravaganza, Comedy Central Live, The Russell Howard Hour). Roedd Harriet yn brif awdur am ddau dymor Channel Hopping gan Jon Richardson ac ysgrifennodd a serennodd yn Meet the Richardson's. Enillydd Gwobr Cynrychiolaeth Niwrogyfeiriol yng Ngwobrau’r Fringe Caeredin yn 2022. Yn gomig llawn amser ers 2013, mae hi wedi cael nifer o sioeau sydd wedi cael canmoliaeth gan y beirniaid, yn gweithio i lawer o’r clybiau a’r gwyliau mawr, yn gigio’n rheolaidd dramor, ac yn ymfalchïo mewn bod yn hollol wreiddiol! - Profiad arbennig, os mynnwch.
Bydd y Comedy Club – Clwb Comedi yn ymddangos ar lwyfan Theatr Torch ar nos Sadwrn 26 Hydref am 7.30pm a nos Wener 29 Tachwedd am 7.30pm. Tocynnau’n £14.00 y digwyddiad. Am docynnau, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.