Comedi Ddibwys i Bobl Ddifrifol
Bydd National Theatre Live 2025 yn cyflwyno The Importance of Being Earnest fel nas gwelwyd erioed o’r blaen, wedi’i chyfarwyddo gan Max Webster (Macbeth gan Donmar; Life of Pi), i sgrin Theatr Torch, ddydd Sadwrn 22 Chwefror. Mae Sharon D Clarke, sydd wedi ennill Gwobr Olivier deirgwaith, yn ymuno â Ncuti Gatwa (Doctor Who, Sex Education) yn yr ail-ddychmygiad llawen hwn o gomedi enwocaf Oscar Wilde.
Bydd y stori ddoniol hon am hunaniaeth, dynwared a rhamant, a gaiff ei ffilmio’n fyw o’r National Theatre yn Llundain, yn apelio at bawb sy’n hoffi Holby City, Notting Hill, Mamma Mia a Macbeth – am gyfuniad a dyna i chi apêl! Bydd ffans o ysgrifau a dramâu ffraeth, llawn mynegiant Oscar Wilde, yn ogystal â dilynwyr llenyddiaeth glasurol yn mwynhau’r noson hon o gomedi, gyda dychan yn yn gymysg.
Gall bod yn synhwyrol fod yn rhy ddiflas. O leiaf dyna beth mae Jack yn ei feddwl. Wrth gymryd rôl gwarcheidwad dyledus yn y wlad, mae'n crwydro yn y dref o dan hunaniaeth ffug. Yn y cyfamser, mae ei ffrind Algy yn cymryd ffasâd tebyg. Yn anffodus, mae byw bywyd dwbl yn anodd, yn enwedig pan mae cariad yn y cwestiwn. Gan obeithio gwneud argraff ar ddwy foneddiges gymwys, mae'r boneddigion yn cael eu hunain wedi'u dal mewn gwe o gelwyddau y mae'n rhaid iddynt eu llywio'n ofalus.
Wedi’i disgrifio fel ‘flawless piece of comic theatre’ gan Broadway World a ‘A sparkling new production … that’s fiercely faithful to Wilde’s wickedly subversive spirit’ gan y Daily Mail, mae The Importance of Being Earnest wedi derbyn adolygiadau gwych a phum a phedair seren.
Bydd The Importance of Being Earnest yn cael ei dangos ar sgrin Theatr Torch ar nos Sadwrn 22 Chwefror am 7pm. Tocynnau ar gyfer y sgriniad yn £15. Consesiynau: £13 ac O Dan 26: £8.50. Ewch i’r wefan am fwy o fanylion ar www.torchtheatre.co.uk, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.