Chwyldro A Wnaeth Siglo'r Byd

Yn dilyn rhediad hynod lwyddiannus yng Nghaerdydd yn 2023, mae drama Theatr y Sherman a Hijinx o Housemates yn dod i Theatr Torch fis Ebrill eleni. Fe wnaeth ail-adroddiad Tim Green o stori ryfeddol a ddigwyddodd ychydig fetrau o ddrysau Theatr y Sherman yng Nghaerdydd gipio calonnau cynulleidfaoedd ac ennill canmoliaeth mawr iawn gan feirniaid ar adeg ei llwyfannu. Dyma stori am ffrindiau a ddechreuodd chwyldro a oedd yn nodi dechrau diwedd gofal sefydliadol a chreu cartref byw â chymorth cyntaf y DU.

Dechreuodd pan ddaeth Alan, dyn ifanc a aned â syndrom Down, i mewn i fywyd Jim, myfyriwr o Brifysgol Caerdydd. Roedd Alan wedi byw fel preswylydd yn Ysbyty Trelái ers ei blentyndod; y cyfan yr oedd ei eisiau oedd byw mewn tŷ a bod mewn band. Roedd Jim eisiau gwneud gwahaniaeth yn y byd, ond nid oedd yn gwybod sut. Ar y cyd â'u ffrindiau, fe wnaethon nhw gychwyn ar arbrawf a drawsnewidiodd sut roedd pethau'n cael eu gwneud, sut roedd pobl yn cael eu trin a phwy oedd yn cael dweud wrthych sut i fyw.

Daw’r awdur Tim Green, Theatr y Sherman a Hijinx at ei gilydd i adrodd y stori wir ryfeddol hon a byddant yn teithio i dri lleoliad yma yng Nghymru gyda thri pherfformiad yn Theatr Torch. Teimlwch y wefr gyda’r noson allan gyffrous hon sy’n llawn caneuon poblogaidd o’r 70au ac sy’n cael eu chwarae’n fyw a’u perfformio gan gast o actor-gerddorion niwrowahanol a niwro-nodweddiadol yn cynnwys aelodau o Academi Hijinx. Mae’r noson tapio troed a thwymgalon sy’n agoriad llygad a wedi ei chyfarwyddo gan Ben Pettitt-Wade a Joe Murphy, yn un na ddylid ei cholli.

Gyda chefnogaeth cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae Housemates wedi derbyn adolygiadau gwych a dyfarnwyd pum seren iddi gan The Stage a’i disgrifiodd fel “Cynhyrchiad sy’n pelydru cynhesrwydd, ffraethineb a dynoliaeth.”

Mae Housemates yn cynnwys sŵn uchel, iaith gref a themâu oedolion.

Mae tocynnau ar gyfer Housemates yn Theatr Torch o nos Fercher 2 Ebrill tan nos Wener 4 Ebrill am 7pm ar werth nawr am £22 / Consesiynau: £20 / £15 i’r rheiny o Dan 26. Gellir eu prynu yn Swyddfa Docynnau Theatr Torch ar 01646 695267 neu gliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.