THEATR Y TORCH I GAU I'R CYHOEDD RHWNG RHAGFYR 27 2021 I IONAWR 1 2022
Gyda chalon drom y byddwn yn cau ein drysau i'r cyhoedd o ddydd Llun, Rhagfyr 27 2021 i ddydd Sadwrn, Ionawr 1 2022.
Ers y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ar ddydd Mercher i gyflwyno canllawiau newydd ar gyfer pellhau cymdeithasol o ddydd Sul 26 Rhagfyr a’r penderfyniad a ddeilliodd o hynny i ganslo wythnos olaf ein pantomeim, Cinderella, mae angen amser ar ein tîm i weithredu’r canllawiau newydd ac mae angen i ni leddfu hefyd y pwysau cynyddol sydd ar ein tîm ar hyn o bryd er mwyn cysylltu â'r holl archebwyr yr effeithir arnynt yn ystod yr wythnos nesaf.
Yn hanesyddol, mae cyfnod yr ŵyl yn un o'n hadegau prysuraf o'r flwyddyn ac rydyn ni'n gwybod faint rydych chi'n edrych ymlaen at gynnwys ymweliad â'r Torch fel rhan o'ch cynlluniau gwyliau Nadolig. Nid yw'r penderfyniad i gau yr wythnos nesaf wedi'i wneud yn ysgafn ac mae er budd gorau ein staff a'u llesiant. Bwriadwn fod yn barod i'ch croesawu eto gyda mesurau pellhau cymdeithasol llawn ar waith o ddydd Sul 2 Ionawr a byddwn yn ôl i'r arfer bryd hynny.
O heddiw ymlaen, cysylltir â phob deiliad tocyn ar gyfer dangosiadau sinema yr wythnos nesaf trwy drefn dyddiad y sioe. Unwaith eto, gofynnwn yn garedig nad ydych yn ein ffonio, bydd ein tîm yn eich ffonio chi pan fyddant yn barod i gysylltu â chi. Bydd ein tîm Swyddfa Docynnau yn mynd trwy eich opsiynau: gellir rhoi ad-daliadau llawn lle bo angen, byddwn yn gofyn i chi ystyried trosglwyddo'ch tocynnau i ddangosiad sinema arall o ddydd Sul 2 Ionawr, gan roi eich balans ar gerdyn Ychwanegol Torch i'w ddefnyddio'n hwyrach, neu, os ydych mewn sefyllfa i wneud hynny, ystyriwch roi gwerth eich tocynnau i gefnogi'r Torch. Gwerthfawrogir eich haelioni a'ch cefnogaeth yn fawr iawn.
O ddydd Sul 2 Ionawr 2022, bydd yr holl ffilmiau a darllediau byw yn rhai a fydd wedi eu pellhau'n gymdeithasol yn y ddau awditoriwm. Fel diolch arbennig am eich cefnogaeth trwy'r cyfnod anodd hwn, bydd pob tocyn ar gyfer y sinema yn £6 y tocyn hyd at ddydd Sul 16 Ionawr. Rydym yn cynnal trafodaethau cyson â Chyngor Sir Penfro ac yn dilyn cyngor gan ein cyrff diwydiant, byddwn yn adolygu'r sefyllfa hyd at y dyddiad hwn ac yn gweithredu mesurau newydd yn dibynnu ar y canllawiau swyddogol ar y pryd.
Hoffem ddiolch i chi am eich cefnogaeth barhaus, eich dealltwriaeth a'ch teyrngarwch i Theatr y Torch. O bob un o'n staff a'n gwirfoddolwyr, hoffem ddymuno Nadolig Llawen ond Diogel i chi ac edrychwn ymlaen at eich gweld eto yn 2022.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.