Llanw a Thrai Sir Benfro Yn Ysbrydoli Artist Lleol yn y Torch!
Bydd Arddangosfa Gelf mis Mehefin o’r enw ‘Chasing The Light’ yn Oriel Joanna Field yn Theatr Torch yn cynnwys gwaith yr artist o Sir Benfro, Chris Prosser. Yn artist Morlun Cymreig sydd wedi byw yn y sir ers dros 30 mlynedd, mae Chris yn tynnu ei ysbrydoliaeth greadigol o arfordir godidog Sir Benfro sydd o’i amgylch.
Yn wreiddiol o Dredegar, de Cymru, astudiodd Chris radd mewn Dylunio Graffig ym Mhrifysgol Brighton cyn gweithio i gwmni ymgynghorol The Partners yn Llundain. Gan golli ei wreiddiau Cymreig annwyl, dychwelodd i Gymru a Sir Benfro a dilyn gyrfa lwyddiannus ym myd addysg gelf am dros 30 mlynedd, gan ddod o hyd i amser i ddilyn ei waith celf ei hun ac ymarfer yr hyn a bregethai.
Mae Chris wedi peintio arfordir garw gorllewin Cymru yn helaeth ac yn ymroi i’w angerdd am awyr stormus, gorwelion goleuo a llanw a thrai.
“Mae llawer o fy ysbrydoliaeth peintio yn esblygu o amgylch fy ymlyniad personol ac emosiynol gyda lle. Mae fy ngwaith yn seiliedig ar yr elfennau atmosfferig a geir yn yr ardaloedd cyfagos i gynhyrchu ystod ddramatig a chyfoes o gelf,” meddai Chris, a wnaeth gymryd rhan ym mhrosiect A Warm Space yn y Torch yn gynharach yn y flwyddyn.
Ar ôl penderfynu ar y lleoliad a'r palet, mae Chris yn gwanhau paent acrylig ac mae haenau tryloyw yn cael eu gleidio ar y cynfas.
“Mae hyn yn ffurfio haen denau o dir, ac mae llanw a thrai y strociau brwsh yn ychwanegu ac yn tynnu’r paent yn ysgafn, gan ganiatáu dyfnder i ddod ar ffurf golau a gofod,” ychwanegodd Chris sy’n gweithio o gyfeiriadau ffotograffig ar y dechrau.
Gan gloi medde Chris: “Yn y pen draw, rwy'n dibynnu ar fy nychymyg a'm teimladau i gymryd drosodd wrth i'r ddelwedd derfynol ddod i'r amlwg. Mae cysgodion rhagweledol ac elfennau o olau sy'n adlewyrchu gobaith yn gyffredin yn llawer o'm gwaith.”
Bydd yr arddangosfa yn Theatr Torch ar agor yn ystod oriau’r Swyddfa Docynnau o ddydd Mawrth 3 – Iau 28 Mehefin. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Theatr ar 01646 695267 neu ewch i torchtheatre.co.uk. Am fwy o fanylion am yr artist a’i waith ewch i www.chrisprosser.co.uk.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.