BLOG RHIF 5 - CHELSEY GILLARD

Mae'r tri mis diwethaf ‘ma wedi bod yn gorwynt! Ers ymuno â thîm y Torch ym mis Hydref rydym wedi llwyfannu dau gynhyrchiad mawr, ein clasur poblogaidd yn yr hydref, Of Mice and Men, a’n pantomeim Nadoligaidd, Sleeping Beauty ill dau wedi’u cyfarwyddo’n arbennig gan Peter Doran a wnaeth ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn. Cyrhaeddom y nifer uchaf erioed o gynulleidfaoedd dros y ddwy sioe hyn, yn ogystal ag ailfywiogi ein theatr ieuenctid, cynnal rhaglen lawn o ffilmiau, mynd allan gyda chôr gwych Lleisiau’r Torch, arddangos gwaith hyfryd nifer o artistiaid lleol yn ein horiel a cysylltu ag ysgolion a phrifysgolion lleol.

Wrth i'r llwch ddechrau setlo ar ôl y Panto gallaf ddechrau edrych ymlaen at yr hyn a ddaw y flwyddyn nesaf. Yn fy rôl newydd fel Cyfarwyddwr Artistig, byddaf yn gyfrifol am ddewis a chyfarwyddo’r sioeau a wnawn yma yn Aberdaugleddau, curadu’r detholiad o sioeau byw a sinema sy’n ymweld â ni a gweithio’n glos gyda’r tîm Ieuenctid a Chymuned i sicrhau ein bod yn cysylltu gyda niifer o bobl ag y gallwn ar draws y sir. Rwyf eisoes wedi fy nghyffroi am gymaint o’r gwaith ymweld sydd gennym ar y gweill dros y misoedd nesaf, byddaf yn gwneud fy nawnsio dehongli gorau gyda’r gynulleidfa ar gyfer An Evening Without Kate Bush ac yn bloeddio’n frwd ar y corws cymunedol yn Opera Canolbarth Cymru Hansel and Gretel.

O ran ein gwaith ein hunain; ni allaf aros i ddechrau ar Beauty and the Beast. Ymddengys y Nadolig ymhell bell i ffwrdd, ond fe fydd yn rhaid i mi ddechrau cynllunio’r cyfan nawr er mwyn sicrhau y bydd y sioe fwyaf anniben, sili a hudol y gall fod. Peidiwch ag anghofio archebu eich tocynnau cyn diwedd mis Ionawr a chymryd mantais o’n cynnig cyntaf i’r felin.

Am y tro, mae’n rhaid i mi aros ychydig yn dawel am y sioe glasurol boblogaidd yr Hydref eleni gan fod yn rhaid i ni sicrhau’r hawliau a chael popeth yn ei le yn gyntaf. Gallaf addo y bydd yn deitl yr ydych yn ei adnabod gyda chast gwych o actorion Cymreig. Byddwn yn rhoi gwybod i chi beth sy'n digwydd cyn gynted â phosibl, felly cadwch eich llygaid yn agored.

Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â mwy ohonoch dros y misoedd nesaf a dysgu am yr hyn y mae’r Torch yn ei olygu i chi, yr hyn yr ydym yn ei wneud yn dda a’r hyn y gallwn ei wella. Cyn bo hir byddwn yn cyhoeddi gweithgareddau hanner tymor newydd ar gyfer pobl ifanc ac oedolion, yn ogystal â chyfleoedd i ymwneud mwy â gwaith y theatr oddi ar y llwyfan ac ar y llwyfan. Mae’n mynd i fod yn flwyddyn arall llawn creadigrwydd a chydweithio felly dewch draw i gymryd rhan.

Teimlaf yn freintiedig i fod yn rhan o dîm mor frwdfrydig a chreadigol yn y Torch. Rwy’n parhau i gael fy syfrdanu’n ddyddiol wrth i mi yrru i’r gwaith ac mae harddwch Sir Benfro yn rhyfeddol. Roeddwn hyd yn oed yn ddigon ffodus i gael Mantell Sych yn anrheg Nadolig fel y gallaf gadw’n gynnes pan fyddaf yn teimlo’n ddigon dewr i fynd am dip yn y môr!

Diolch am eich holl gefnogaeth dros 2022. Mae unrhyw theatr ond cystal â’i chynulleidfa, ac rydych chi oll yn fendigedig! Gobeithiaf eich gweld yn fuan, naill ai yn y Torch neu efallai gyda fy nghap nofio ymlaen yn Freshwater East neu Little Haven.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.