CHELSEY GILLARD WEDI’I HENWI FEL CYFARWYDDWR ARTISTIG NEWYDD THEATR Y TORCH

Mae Theatr y Torch yn Aberdaugleddau wedi cyhoeddi mai Chelsey Gillard sydd wedi’i phenodi’n Gyfarwyddwr Artistig newydd, gan olynu Peter Doran ar ôl 25 mlynedd yn y rôl.

Mae Chelsey yn cyrraedd Theatr y Torch gyda chyfoeth o brofiad y tu cefn iddi mewn creu theatr ac ymgysylltu creadigol. Yn fwy diweddar, hi oedd Cyfarwyddwr Cyswllt Ymddiriedolaeth Carne yn Theatr Stephen Joseph yn Scarborough (2019-2021) lle cafodd y fraint enfawr o weithio ar y cynhyrchiad cyntaf o 85fed drama Syr Alan Ayckbourn, The Girl Next Door. Mae hi’n un o sylfaenwyr PowderHouse, y Cwmni Preswyl yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd ac mae hefyd yn Artist Cyswllt i Chippy Lane Productions.

Meddai Chelsey Gillard:

“Rwyf wrth fy modd i fod yn ymuno â’r Torch. Rwyf wedi edmygu gwaith y tîm gwych hwn ac arweinyddiaeth Peter Doran ers amser. Fel yr unig leoliad a ariennir yn rheolaidd yn Sir Benfro, mae wedi bod yn esiampl o greadigrwydd ac yn ganolbwynt hanfodol i’r gymuned dros y 45 mlynedd diwethaf. Wrth i ni edrych tuag at y dyfodol, bydd angen i ni barhau i arloesi, gan ddod o hyd i ddulliau newydd o estyn allan i gynulleidfaoedd, cyfranogwyr ac artistiaid yn Aberdaugleddau, Sir Benfro a thu hwnt. Rwy’n gyffrous i arwain y bennod nesaf hon ochr yn ochr â’r Cyfarwyddwr Gweithredol Benjamin Lloyd a’r Bwrdd.”

“Mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn hynod anodd i gymaint a gall theatr fod yn wreichionen o hapusrwydd, cysylltiad a chysur sydd ei angen arnom oll. Edrychaf ymlaen at eich croesawu yn ôl i’n llwyfannau lle rwy’n falch iawn o fod yn curadu ystod eang o waith gan gynnwys y Panto blynyddol, y ddrama glasurol ac ysgrifennu newydd o’m cartref yma, tra hefyd yn dathlu’r theatr ieuenctid fywiog a grwpiau cymunedol sy’n galw’r Torch yn gartref. Dyna i chi fraint cael bod yn rhan o etifeddiaeth yr adeilad unigryw hwn, ni allaf aros i fwrw ati.”

Daw’r gyfarwyddwraig Chelsey o Ben-y-bont ar Ogwr lle ei ganwyd a’i magwyd. Dechreuodd ei gyrfa yn The Other Room yng Nghaerdydd fel Cyfarwyddwr dan Hyfforddiant, lle cyfarwyddodd ei chynhyrchiad proffesiynol cyntaf, Constellation Street gan Matthew Bulgo (cyd-gyfarwyddwyd gyda Dan Jones), a wnaeth ennill y Cynhyrchiad Gorau yn yr Iaith Saesneg yng Ngwobrau Theatr Cymru. Ers hynny, mae Chelsey wedi mynd ymlaen i weithio o amgylch Cymru a’r DU, gan gyfarwyddo cynyrchiadau fel BLUE (Chippy Lane a Chapter), Saethu Cwningod/ Shooting Rabbits (PowderHouse, Sherman a Theatr Genedlaethol Cymru), The Invisible Woman (CMC a thaith Gymreig) a The Burton Taylor Affair (Sherman ac Oran Mor, Glasgow).

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr y Torch Benjamin Lloyd:

“Roeddem wrth ein bodd gydag ehangder a dyfnder y diddordeb yn rôl y Cyfarwyddwr Artistig yma yn y Torch, er na chawsom ein synnu o ystyried pa mor unigryw ac arbennig yw’r cyfle i arwain y rhaglen artistig yn un o adnoddau artistig mwyaf gwerthfawr y wlad. Parhau mae’r llu o heriau sy’n wynebu’r Celfyddydau ac fel sefydliad rydym yn benderfynol ac yn ymroddedig i gwrdd â nhw yn uniongyrchol a pharhau i gefnogi ein hartistiaid a’n cymunedau i’r dyfodol. Rydym yr un mor falch felly o fod wedi canfod yn Chelsey, Cyfarwyddwr Artistig sydd â gweledigaeth ac ymrwymiad sy’n cyd-fynd â’n huchelgais i arloesi, ysbrydoli, creu ac ymgysylltu mewn ffyrdd newydd, dwys a chyffrous wrth i ni yrru tuag at ddyfodol mwy cynrychioliadol, teg a chynaliadwy yn y Celfyddydau, ar gyfer y genhedlaeth nesaf yng Ngorllewin Cymru a thu hwnt.”

Yn ystod y misoedd nesaf, edrycha staff, gwirfoddolwyr a Bwrdd Ymddiriedolwyr Theatr y Torch ymlaen at weithio gyda Chelsey. Ar benodiad Chelsey, ychwanegodd Rhys Sinnett, Cadeirydd Bwrdd Theatr y Torch:

“Rydym yn hynod falch o groesawu Chelsey i deulu’r Torch. Edrychwn ymlaen yn fawr at ei gweld hi a Ben yn adeiladu ar y gwaith y mae Peter Doran wedi’i gyflawni yn ystod y 25 mlynedd diwethaf. Daw Chelsey â’i syniadau a’i gweledigaeth artistig i’r rôl a bydd yn canolbwyntio ar dyfu’r theatr ieuenctid ac ymgysylltu â’r gymuned yn ogystal â chyflwyno ei rhaglen ei hun o gynyrchiadau. Ni allwn aros iddi ymuno â ni ar y siwrnai hon.”

Bydd y daith yn cychwyn ychydig yn gynt na’r disgwyl i Chelsey wrth iddi ymuno â datblygiad strategaethau Ieuenctid ac Ymgysylltu’r Torch yr haf hwn. Bydd hefyd yn goruchwylio arlwy Ysgolion Drama Haf Theatr Ieuenctid y Torch ddechrau mis Awst. Dyma gyfle gwych i Chelsey gael profiad uniongyrchol o’r cyfoeth o dalent artistig ifanc ar draws y sir ac i’r cyfranogwyr weithio gyda chyfarwyddwr hynod gyffrous sy’n llawn gweledigaeth.

Ychwanegodd Henry Rees, Swyddog Datblygu Cyngor Celfyddydau Cymru, prif gyllidwr Theatr y Torch:

“Cam cyffrous arall ar hyd y ffordd yw penodiad Chelsea fel Cyfarwyddwr Artistig newydd Theatr y Torch i gyflawni cynlluniau datblygu hirdymor y cwmni tuag at ragoriaeth artistig, mwy o wytnwch a chynaliadwyedd yn y dyfodol. Adeilada’r bennod newydd hon ar y cyfraniadau gwerthfawr ac enghreifftiol y mae Peter Doran wedi'u gwneud yn ystod ei gyfnod yn Y Torch. Croesawn Chelsey i’w rôl newydd, ac rydym yn hyderus y bydd ei gweledigaeth artistig, ei hegni, a’i huchelgais yn sicrhau esblygiad parhaus o’r traddodiadau sefydledig mewn ffordd a fydd yn cynnal etifeddiaeth y Torch ac yn rhyddhau ei photensial.”

Yn swyddogol, bydd Chelsey Gillard yn dechrau ei rôl fel Cyfarwyddwr Artistig ym mis Hydref eleni, gan weithio i ddechrau ochr yn ochr â Peter Doran wrth iddo gyflwyno ei dymor olaf o waith yn y Torch. Cynhyrchiad, Of Mice and Men, a’r Pantomeim Nadolig blynyddol, Sleeping Beauty, fydd sioe olaf Peter fel Cyfarwyddwr Artistig. Bydd Chelsey yn parhau yn y rôl ar ei phen ei hun o fis Ionawr 2023.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.