Noson yng Nghwmni Charles Dale

Bydd yr actor lleol llwyddiannus, Charles Dale, yn ymddangos yn y Torch ar nos Sadwrn 19 Hydref 2024 am noson o hwyl ac adloniant wrth iddo rannu hanesion asgwrn pen llo, gwirioneddau cartref a straeon rhyfeddol am ei 40+ mlynedd fel actor llwyddiannus.

Mae sioe Charles yn ddigwyddiad codi arian unwaith eto ar gyfer Theatr Torch.

Wedi’i eni yn Ninbych-y-pysgod ym 1963 roedd rhieni Charles yn actorion amatur brwd a dechreuodd ei frwdfrydedd dros actio pan oedd yn ifanc iawn. Gadawodd Charles yr ysgol yn 16 oed a daeth yn rheolwr llwyfan cynorthwyol (trwy Gynllun Cyfleoedd Ieuenctid) yn Theatr Torch lle bu yno am flwyddyn. Cymerodd rolau actio achlysurol, ac yna symudodd i Lundain a hyfforddi yn LAMDA.

Yn anaml yn ddi-waith dros y blynyddoedd ers hynny, mae Charles wedi gweithio i’r English Shakespeare Company, yn theatr y West End ac ar Broadway. Mae ei amlbwrpasedd fel actor yn cael ei ddangos gan rannau sy'n amrywio o Cyrano de Bergerac yn y West End i'w waith sylweddol ym myd teledu. Chwaraeodd Big Mac yn Casualty am wyth mlynedd – 354 pennod anhygoel. Bu Charles hefyd yn chwarae rhan Dennis yn Coronation Street am ddeunaw mis ac yn ddiweddar mae wedi cael ei weld yn y gyfres lwyddiannus iawn Sherwood ar gyfer y BBC.

Dywedodd Charles wrthym: “Rwy’n falch iawn o gael fy ngwahodd yn ôl i Theatr Torch i wneud y sioe un-dyn hon. Mae wedi bod yn amser hir. Fel noddwr y Torch rwy’n falch o fod yn helpu ar yr un pryd â chael noson wych gyda phobl yn ein cymuned. Dewch draw, mae’n mynd i fod yn llawer o hwyl a byddwch yn cefnogi achos gwych. Ac efallai y bydd neu na fydd rhai hanesion am yr hyn a ddigwyddodd y tu ôl i’r llenni yn y Torch yn ôl yn y dydd!”

Mae gan Charles nifer o straeon i'w rhannu, ychydig o ganeuon i'w canu, bydd yn adrodd rhai o'r cerddi a oedd yn hynod boblogaidd ar Twitter / X yn ystod y cyfnod clo a bydd, fe fydd yn ateb ychydig o gwestiynau gan ein cynulleidfa. Ar 19 Hydref daw gyrfa Charles yn gylch llawn!

Bydd y sioe – ‘Talking B******s With Charles Dale - From the Torch Theatre to Broadway’ yn Theatr Torch ar nos Sadwrn 19 Hydref am 7.30pm. Tocynnau’n £25. Byddwch yn ymwybodol y gallai fod ychydig o regi ar adegau!

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.