CYHOEDDIAD CWMNI THEATR CYNHYRCHU'R TORCH GWANWYN 2022
Theatr y Torch Aberdaugleddau yn dod â stori am Eicon Cymraeg i’r llwyfan yn 2022.
Pleser gan Gwmni Theatr y Torch gyhoeddi eu cynhyrchiad Gwanwyn 2022, Carwyn, drama un dyn sy'n archwilio bywyd cyn-hyfforddwr tîm Rygbi Llewod Prydain ac Iwerddon, Carwyn James.
Drama newydd sbon yw Carwyn gan y dramodydd o Gymru Owen Thomas, yr awdur tu ôl i’r gwobrwyedig Grav a chaiff ei chyfarwyddo gan Gareth John Bale, sydd wedi chwarae rhan ‘Grav’ ar lwyfan a hefyd ar y sgrîn. Yn cymryd rhan Carwyn fydd yr actor o aned yn Llanelli, Simon Nehan sydd wedi serennu yn The Pembroke Murders, The Crown, The Snow Spider, Merlin, Casualty ac yn fwy diweddar mae e wedi ei weld ar lwyfan yn Curtain Up yn Theatr Clwyd.
Bydd Carwyn, sy’n agor yn y Torch ar ddydd Mawrth 15 Chwefror ac yna’n mynd ar daith i leoliadau ar draws Cymru ym mis Mawrth, yn ceisio datod yr enigma o ddyn aml-haenog. Dyn o flaen ei amser. Dyn sydd ar ben ei hun mewn tyrfa. A dyn sy’n anesmwyth yn ei groen ei hun. Dyn dywed nifer, er nad oeddent wir yn ei adnabod, roeddent yn gwybod beth oedd yn sbarduno ei galon a’i feddwl. Yn ei 53 mlynedd, cafodd Carwyn James effaith anghredadwy, parhaus ar ei famwlad, ond rhyw sut mae hyn ymhell yn y cof. Dyn a oedd yn byw am chwaraeon, diwylliant a gwleidyddiaeth, dyn a oedd yn caru Cymru. Mae Carwyn yn archwilio bywyd dyn oedd â’i yrfa’n cynnwys addysgu, darlledu, hyfforddi, a hyd yn oed ysbïwriaeth.
Dywedodd Owen Thomas wrth ddod â’i ysgrifennu yn fyw ar y llwyfan yn y Torch:
“Yn dilyn Grav a The Wood, rwy’n falch iawn o gael y cyfle i gwblhau trioleg o ddramâu yn yr hyfryd Theatr y Torch. Dyn cymhleth ac arbennig oedd Carwyn James a arweiniodd fywyd cymharol fyr ond hynod ddiddorol. Gobeithiaf y bydd Carwyn yn atgoffa pobl o'i effaith, nid yn unig ar rygbi’r byd, ond hefyd ar iaith a diwylliant ei famwlad. Mae'n arbennig o braf yn y cyfnodau anodd hyn i ddod â'r stori bwysig hon i rai o'n theatrau Cymreig anhygoel. Gobeithiaf y bydd cynulleidfaoedd yn dod allan i'w cefnogi.”
Roedd Carwyn James yn ddieithryn ei holl fywyd. Yn fachgen o Gefneithin a aned yn Rhydlewis. Yn feddyliwr serebrol a ddefnyddiodd ei ddeallusrwydd pwerus i feistroli rhai o'r buddugoliaethau mwyaf a welwyd erioed ar y cae rygbi. Dyn wnaeth hyfforddi Llanelli, Llewod Prydain ac Iwerddon, a'r Barbariaid i fuddugoliaeth dros Seland Newydd, ond na hyfforddodd ei wlad ei hun erioed. Hyd heddiw, Carwyn James yw'r unig Hyfforddwr i feistroli buddugoliaeth cyfres i Llewod Prydain yn erbyn y Crysau Duon. Disgleiriodd Carwyn yn loyw, yna fe bylodd yn araf.
Gan gyfarwyddo cynhyrchiad llwyfan o Carwyn, meddai Gareth John Bale:
“Rwy'n falch iawn o fod yn cyfarwyddo Carwyn ar gyfer Cwmni Theatr y Torch. Bydd yn bleser gweithio gyda thîm creadigol mor wych i ddod â geiriau Owen Thomas ’a’r cynhyrchiad hwn yn fyw. Fel mab balch o Lanelli, ac yn actor gwych, mae Simon Nehan yn berffaith addas i chwarae rhan Carwyn. Roedd Carwyn James yn hyfforddwr rygbi anhygoel, dyn a newidiodd yn llythrennol sut mae'r gêm yn cael ei chwarae. Er hynny, roedd llawer mwy i Carwyn na rygbi. Bydd yn brofiad gwych archwilio bywyd athrylith rygbi a chwedlonwr sydd bron yn angof.”
Bu farw Carwyn James ar ei ben ei hun mewn ystafell westy yn Amsterdam ym mis Ionawr 1983. Mae Carwyn, y ddrama lwyfan, yn dychwelyd i’r ystafell honno ar y noson Gaeaf honno ac yn caniatáu i’r dyn unigryw hwn gael un cyfle olaf i edrych yn ôl dros ei fywyd byr ond cyffrous. Bywyd lle mae harddwch geiriau beirdd a dramodwyr mor bwysig â thrai rygbi. Bydd y ddrama hon yn atgoffa’r wlad o un o’i meibion coll a gyfrannodd mor sylweddol i’n bywyd chwaraeon, diwylliannol, gwleidyddol a deallusol. Dyn wnaeth rhoi pleser i gymaint ond a dderbyniodd ychydig o bleser ei hun. Dyn o flaen ei amser. Dyn allan o amser.
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr y Torch, Benjamin Lloyd ymhellach:
“Rydym yn hynod falch ein bod wedi ymgynnull tîm mor gyffrous i archwilio, a bod yn dyst i fywyd ac effaith anhygoel un o eiconau diwylliannol a chwaraeon mwyaf anos ac enigmatig Cymru. Ni allwn aros i gyflwyno Carwyn o'r newydd, i gynulleidfaoedd ar draws Cymru. "
Bydd Carwyn yn agor yn Theatr y Torch ar ddydd Mawrth 15 Chwefror, gan berfformio ar adegau amrywiol tan ddydd Sadwrn 26 Chwefror yn theatr Theatr y Stiwdio. Mae perfformiad pellter cymdeithasol ar ddydd Llun 21 Chwefror a pherfformiad dehongliad BSL ar ddydd Mawrth 22 Chwefror. Mae’r perfformiad yn addas i’r rheiny 12 a hŷn. Tocynnau’n costio £15, 13 Consesiynau ac £8.50 i’r rheiny 26 ac iau. Gellir gwneud archebion trwy Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar 01646 695267 neu trwy ymweld â www.torchtheatre.co.uk neu yma. Bydd Carwyn yn teithio i leoliadau amrywiol ar draws Cymru o ddydd Llun 28 Chwefror 2022.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.