Bonnie a Clyde – y Sioe Gerdd Syfrdanol

Yn serennu Jeremy Jordan (a enwebwyd ar gyfer Gwbor Tony) a’r Enwebai Olivier Frances Mayli McCann, mae’r cynhyrchiad cwlt-hoff gwobrwyedig hwn, Bonnie a Clyde The Musical (gan gynnwys y Sioe Gerdd Newydd Orau - Gwobrau What’s On Stage 2023) yn ail adrodd stori wir anghredadwy cwpl mwyaf gwaradwyddus America, Bonnie Parker a Clyde Barrow. Gwyliwch y cariadon wrth iddyn nhw fynd ar sbri trosedd ar sgrin Theatr Torch fis Mai eleni.

Wedi’i chyfleu mewn sioe gerdd syfrdanol, o safon fyd-eang, mae’r sioe gerdd yn dilyn y cariadon a’r lladron banc mwyaf drwg-enwog sy’n herio’r wlad mewn antur rhywiol a chymhellol. Wedi’i recordio’n fyw yn Theatre Royal Drury Lane yn Llundain, dewch o hyd i stori drydanol am gariad, antur a throsedd a ddaliodd sylw cenedl gyfan.

Yn ystod anterth y Dirwasgiad Mawr, aeth Bonnie a Clyde o fod yn ddau unigolyn tawel mewn tref fach yng ngorllewin Texas i fod yn arwyr gwerin enwocaf America a greodd gur pen difrifol i’r heddlu a’r system gyfreithiol. O herwgipio i lofruddiaethau yn y 1930au, lladrataodd y cariadon orsafoedd nwy, bwytai, a siopau tref yn ardaloedd New Mexico, Missouri, Oklahoma a Texas. Credir iddynt lofruddio o leiaf naw swyddog heddlu a phedwar sifiliad cyn cael eu saethu a'u lladd mewn cudd-ymosodiad ger Sailes, Louisiana.

Gellir gweld Bonnie and Clyde The Musical ar sgrin fawr Theatr Torch ar nos Iau 1 Mai am 7pm. Tocynnau: £15.00 | £13.00 Cons | £8.50 O dan 26. Ewch i'r wefan am ragor o fanylion www.torchtheatre.co.uk / ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.