Bob Marley: One Love Adolygiad - Val Ruloff

Yn bendant, mae "Jammin'" yn ar frig y don yma. "I hope you like jammin', too".... a dim ond un o'r negeseuon yn y ffilm hon yw honno.

Nid tasg hawdd yw darlunio dyn fel Bob Marley, gyda'r statws a'r ddelwedd eiconig y mae bellach wedi'u cyflawni mewn diwylliant a cherddoriaeth... wedi'u cydblethu yn ei sain reggae nodedig a'r ideoleg “Rastafari” (Rastafariaidd).

Reinaldo Marcus Green sydd wedi mynd i'r afael â'r sgript a'r cyfeiriad ffilm gyda chredydau cynhyrchwyr yn cynnwys Ziggy Marley, Rita Marley a Cedella Marley.

Mae Kingsley Ben-Adir yn drawiadol yn y brif ran. Rydym yn cael perfformiadau cryf gan Lasana Lynch fel Rita Marley a James Norton fel Chris Blackwell, sylfaenydd Island Records.

Mae ffilmiau bywgraffyddol yn her ac maent yn aml yn ddadleuol. Y cwestiwn felly yw, a yw'r ffilm hon yn cyd-fynd â'r disgwyliadau ac yn gymwys fel adroddiad diffiniol? Wedi’r cyfan, mae llawer o ddisgwyl wedi bod am y ffilm hon. Mae ganddi gymaradwyaeth y teulu hefyd. Mae cryn dipyn o'r cynnwys eisoes yn gyfarwydd i ddilynwyr bywyd a cherddoriaeth Bob Marley, ond mae cryn dipyn i'w gael o fewn cwmpas y ffilm gan ei fod yn cynnwys ei oes drasig o fyr.

Mae wedi bod yn bedwar deg a thri o flynyddedd ers i Bob Marley ein gadael bellach... ond mae ei atgof wedi ei serio i mewn i ymwybyddiaeth boblogaidd ac yn cael ei drysori gan nifer. Mae'r stori'n cyflwyno'r gynulleidfa i hanes profiadau bywyd difyr a hynod ddiddorol Bob Marley. Mae’r rhain yn cynnwys ei ddechreuad dirdynnol fel plentyn wedi eni i dad gwyn Jamaicaidd (oddeutu) chwe deg pedair oed na ddaeth Bob Marley i’w adnabod a mam deunaw oed o dreftadaeth Affricanaidd a Jamaicaidd.

Mae lleoliadau yn cynnwys Jamaica a Llundain ac yn llawn bywiogrwydd, llawenydd a mynegiant o'r hyn y ceisiodd Bob Marley ei gyfleu ... fel neges a negesydd, hynny yw.

Un cariad, yn wir. Undod. Achubiaeth.

Mae golygfeydd hefyd yn cynnwys rhai pynciau anodd, gan gynnwys y saethu hynod ddramatig a'r anafiadau difirfol a oedd yn cynnwys Bob Marley a'i wraig. Mae trais corfforol, cam-drin a chyfnodau cysylltiedig â chyffuriau hefyd dan y lach.

Mae golygfeydd olaf Bob Marley ei hun, sy’n cael eu dangos wrth i'r ffilm ddod i ben, yn wych i'w gweld ac wir yn gwella'r ffilm.

Mae'r gerddoriaeth yn unig yn ddigon o reswm i fynd draw i weld “Bob Marley: One Love”. “No Woman, No Cry”… nid yw mor hawdd i'w wneud ar adegau.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.