Blog Rhif. 29 - Angharad Tudor
Ein Hasiant am Newid, Angharad Tudor-Price sy’n dweud wrthym am ei rôl yn y Torch fel aelod o Craidd, sef cydweithrediad rhwng pum sefydliad yma yng Nghymru.
Helo, Angharad ydw i. Rwy'n artist amlddisgyblaethol ffriland sydd wedi ei geni a’i magu yma yn Sir Benfro (yn ddigrifwr, bardd, clown, trefnydd digwyddiadau a gŵyl ac yn artist cymunedol). Rwyf hefyd yn Asiant am Newid yn Theatr Torch fel rhan o’r rhaglen arloesol a elwir yn ‘Craidd’. Rydw i yma i ddweud ychydig wrthych am Craidd a beth rydw i'n ei wneud fel Asiant am Newid.
Beth yw Craidd?
Cydweithrediad rhwng pump o sefydliadau Cymreig yw Craidd; Theatr Torch, Theatr Clwyd, Theatr y Sherman, Celfyddydau Pontio, a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Cenhadaeth Craidd yw gwella cynrychiolaeth prif ffrwd, ar gyfer a chyda phobl fyddar, anabl a niwroamrywiol ar draws Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd pob cynhyrchiad craidd yn cynnwys artistiaid byddar, anabl a niwrowahanol ar y llwyfan a thu ôl i’r llenni yn ogystal ag yn y timau creadigol. Mae hefyd yn anelu at ysgogi newid cadarnhaol yn y sefydliadau partner dan sylw yn ogystal ag o fewn y sector theatr ehangach, a hynny er mwyn sicrhau bod y cynwysoldeb hwn yn rhywbeth yr ydym oll yn ei wneud.
Beth mae Craidd yn ei olygu
Gair Cymraeg yw ‘Craidd’ sy’n adlewyrchu uchelgais y gwaith o’r bartneriaeth i fod wrth wraidd holl waith creu theatr ar draws Cymru.
Beth y gwaith Asiant?
Fel Asiant am Newid fy swydd yw cefnogi Theatr Torch i greu newidiadau cynaliadwy sy’n meithrin cynhwysiant ym mhob adran yn y theatr ar gyfer pobl fyddar, anabl a niwroamrywiol. Dros y saith mis diwethaf, rydym wedi cyfarfod ag amryw adrannau yma yn y Torch i nodi ffyrdd o wella hygyrchedd ac i greu map ffordd ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Yn ddiweddar mae aelodau o’r timau Blaen Tŷ a chreadigol newydd gwblhau cyflwyniad 10 wythnos i BSL (Iaith Arwyddion Prydain) gyda’r anhygoel Adam o Arwyddo a Rhannu Sir Benfro. Yn ogystal â hyn, darparwyd hyfforddiant staff sy'n ffocysu ar ymwybyddiaeth o anabledd a niwroamrywiaeth.
Ochr yn ochr â’r rhaglen newid uchelgeisiol hon, bydd Craidd yn creu cynhyrchiad teithiol prif lwyfan yn cynnwys talent byddar, anabl a/neu niwroamrywiol yng Nghymru. Bydd Theatr Clwyd yn cynhyrchu’r sioe gyntaf yn 2026 ac yn teithio i Theatr y Sherman, Celfyddydau Pontio, a Theatr Torch. Ni allwn aros i gael y cynhyrchiad hwn ar daith, yn ogystal â chreu ein sioe ein hunain yma yn y Torch ymhen ychydig flynyddoedd.
Beth wyt ti'n hoffi am dy Swydd?
Rwyf wrth fy modd yn bod yn rhan o Dîm y Torch! Mae pawb wedi bod yn hynod groesawgar ac yn awyddus i greu newid cadarnhaol, ac mae yna ymdeimlad cryf o atebolrwydd wrth gefnogi mynediad.
Rwyf wedi cael cysylltiad cryf â’r Torch ers yr oeddwn yn ifanc, gan ddechrau o berfformio yn yr ysgol haf ieuenctid pan oeddwn yn fy arddegau. Rwyf wedi gweithio mewn amryw o rolau Blaen Tŷ yn ogystal â gweithio fel artist a mynd â fy mab yn rheolaidd i weld sioeau byw. Fel artist niwroamrywiol ffrilans yn Sir Benfro, gallaf gyplysu fy mhrofiad byw gyda fy angerdd am y Torch a phopeth y mae'n ei wneud.
Fel rhan o’r rôl, rwyf hefyd yn mwynhau cysylltu ag artistiaid a chwmnïau cynhyrchu yng Nghymru sy’n archwilio ffyrdd newydd o ymgorffori mynediad yn eu cynyrchiadau. Mae ein dysgu yn tyfu wrth i ni feithrin cysylltiadau!
Felly, mae’n fraint cefnogi’r Torch wrth ddod yn esiampl o hygyrchedd.
Sut allwn ni gysylltu â chi?
Os hoffech gysylltu wyneb yn wyneb gyda ni, ymunwch â ni ddydd Mercher 12 Chwefror, am goffi a sgwrs gyfeillgar yn ystod ein hymgynghoriad cymunedol. Mae hwn yn gyfle gwych i chi rannu eich barn am y Torch ac awgrymu ffyrdd y gallwn wella mynediad mewn meysydd fel cyfleusterau, rhaglennu ac ymgysylltu â'r gymuned.
Mae'n bwysig i ni ymgysylltu â'n cymuned o noddwyr, artistiaid, a'r rhai nad ydyn nhw efallai'n gyfarwydd â Theatr Torch. Os nad yw’n bosibl ymuno â ni ar y diwrnod hwnnw, gallwch gysylltu â mi ar e-bost: angharad.tudor@craidd.cymru neu ffoniwch staff y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267, a byddant yn hapus i’ch helpu.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.