Blog Rhif. 27 - Dame Titania Trott III
Roedd y Nadolig eleni yn Wahanol...
Mae'r gwaith mawr wedi'i wneud ac mae Mrs Claus a minnau yn cymryd peth amser i ymlacio (mae'n waith anodd ond mae'n rhaid i rywun gadw'r bechgyn a'r merched hynny'n hapus) a myfyrio ar ba mor wych yr oedd y Nadolig eleni ac i ddechrau gwneud cynlluniau (a theganau) ar gyfer 2025.
Fe wnaeth Mrs Claus a minnau bethau ychydig yn wahanol eleni. Gobeithio na fyddwch wedi sylwi ar unrhyw beth allan o'r cyffredin, ond daeth Mrs Claus gyda mi ar fy rowndiau ac er i'r pwysau ychwanegol ein harafu ychydig, ni allaf gwyno oherwydd rhoddodd ddiodydd cynnes i mi ar y sled - felly gyda'r holl win a'r mins peis ym mhob stop cawsom amser braf iawn!
Fe wnaethom ni rywbeth arall a oedd yn wahanol iawn hefyd – llwyddon ni i weld pantomeim. Mrs Claus drefnodd y cyfan. Cysylltodd hi ag Andy yn Theatr Torch yn Aberdaugleddau (mae eu pantomeimiau’n adnabyddus ar draws y wlad am fod yn fendigedig) i ofyn a fydden ni’n gallu sicrhau bod y sled llawn yn ddiogel ar y to (dw i’n meddwl bod angen tipyn o sylw ar y to os ydw i’n yn onest) a'i adael yno tra roeddem yn taro i mewn i'r theatr i wylio'r pantomeim prynhawn ar Noswyl Nadolig, cyn i'n danfoniadau ddechrau yng Nghymru.
Daeth Rachel yn y Swyddfa Docynnau o hyd i ddau docyn i ni ac addawodd beidio â dweud wrth neb pwy oeddem ni – allwn ni ddim â mentro i bobl i’n hadnabod! Dangosodd Chelsey ni i’r adran wisgoedd lle bûm yn ein helpu i ddewis dillad cyffredin fel na fyddem yn cael ein hadnabod ac roedd Simon yn awyddus iawn i aros gyda'n ceirw ar y to. Dw i’n meddwl eu bod nhw wedi ei drafferthu ychydig ond fe wnaeth e fwydo bisgedi iddyn nhw (o swyddfa’r tîm marchnata) ac yn ffodus llwyddodd i’w cadw’n dawel.
Wel, am sioe a hanner! Ac am brofiad bendigedig – y chwerthin, y caneuon, y cast anhygoel, y golygfeydd, y gerddoriaeth a phawb yn canu ac yn cymryd rhan.
Aberdaugleddau, rydych chi mor ffodus i gael y fath dalent yn eich plith! Rwy’n gwybod eich bod yn gwybod hyn oherwydd soniodd Chelsey sut mae eich cymuned wedi gwneud pob ymdrech i gefnogi’r ymgyrch codi arian ‘Unwaith Eto’ ac wedi dangos a chefnogi’r theatr. Rwy'n meddwl yr hoffai hi ddiolch i bawb ond gallaf wneud hynny drosti. Gofynnodd Jordan o’r tîm marchnata a gawn i adael llythyr ym mhob cartref yr ymwelais ag ef ond roedd y sled wedi'i orlwytho fel ag yr oedd.
Wedi cyrraedd yn ôl i’r to roedd Colin yn aros amdanom gyda gwin cynnes a chwpl o fins peis cofiadwy Alicia. Fe wnaethom eistedd ar y sled yn edrych i fyny ar y sêr ac allan dros y dŵr, yn meddwl am y gwaith o'n blaenau a chawsom ein hysbrydoli! Cawsom gymaint o hwyl; roedden ni wedi cefnogi theatr hyfryd ac wedi rhannu profiad gyda phobl Aberdaugleddau. Noson bendigedig wir. Dw i’n meddwl bod Mrs Claus yn edrych i ailadrodd y profiad y flwyddyn nesaf – Rapunzel – ac os bydd hi’n cael y tocynnau’n fuan mae’r prisiau yr un fath â rhai eleni! Perffaith. Rydym methu ag aros.
Rydyn ni wedi dilyn yr un hen drefn bob Nadolig ers blynyddoedd lawer. Roedd eleni’n rywbeth newydd a chyffrous a gwahanol – ni fyddwn byth yn anghofio cymaint y gwnaethom fwynhau Jack and the Beanstalk, yn y theatr fach ar ymyl y clogwyni lle mae Cymru’n dechrau. Diolch i bawb a wnaeth ein hymweliad mor fendigedig a phwy a ŵyr, efallai y byddwn ni’n eistedd y tu cefn i chi pan fyddwch chi'n dod y flwyddyn nesaf!
Cariad oddi wrth Santa xxx
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.