Blog No. 14 - Amanda Griffiths
Hia, Amanda Griffiths ydw i a dw i’n gweithio ochr yn ochr â’r Tîm Marchnata fel ei Ddylunydd Mewnol yn y Torch. Rydw i wedi bod yn gweithio i’r Torch ychydig dros flwyddyn ac wedi cael y pleser o ddylunio a marchnata ein Cynyrchiadau Theatr y Torch - y llynedd Of Mice and Men (2022), Sleeping Beauty (2022) ac eleni yn gweithio gyda Chelsey Gillard ein Cyfarwyddwr Artistig ar Private Lives a’n pantomeim cyffrous nesaf Beauty and the Beast. Mae fy rôl yn cynnwys y dyluniadau marchnata digidol a ddefnyddir trwy ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a'n gwefan yn hyrwyddo'r holl ffilmiau, cynyrchiadau a sioeau byw cyffrous sydd ar ddod yma yn y Torch. Rwyf hefyd yn dylunio llyfrynnau Theatr a Ffilm Fyw a Rhaglenni Cynyrchiadau Theatr y Torch.
Dw i wedi bod yn dylunio ers sawl blwyddyn yn Sir Benfro a hynny ers graddio o’r brifysgol yn Swindon gyda gradd mewn Dylunio Graffeg a Phecynnu. Rwyf wedi gweithio’n fewnol gyda sawl tŷ dylunio ac argraffu tra’n magu fy nau o blant ochr yn ochr â’m gŵr. Maen nhw bellach yn oedolion ifanc a bron yn barod i hedfan y nyth!
Pan na fyddwch chi’n dod o hyd i mi yn y Torch, rydw i naill ai yn fy siop ym Mhenfro neu’n crwydro ac yn archwilio ein sir gyda’r dewis diddiwedd o draethau a milltiroedd o arfordir. Dyma fy ysbrydoliaeth a lle rydw i’n gallu meddwl orau am fy nifer o ddyluniadau a chreadigaethau. Dw i’n datblygu darnau o seramig wedi’u hysbrydoli gan yr arfordir i’w gwerthu ochr yn ochr â’m posteri dethol o Sir Benfro, y gallech fod wedi’u gweld eleni yn cael eu harddangos yn Oriel y Torch gyda fy nghasgliad o bosteri ac artistiaid eraill o Sir Benfro dw i’n eu cefnogi yn y siop.
Y peth gorau am fy swydd, ar wahân i weithio ochr yn ochr â thimau eraill o’r Torch, yw gweld beth mae'r sioe fyw nesaf, y ffilm a Chynhyrchiad Theatr y Torch sydd ar ei ffordd! Yn gyntaf byddwn yn cynnal cyfarfod marchnata yn trafod strategaethau marchnata ar gyfer pob sioe unigol ac yn gosod cynllun a rhestr o bethau i’w gwneud! Gallai fod yn ‘Dame Colin’ ym Marchnad Nadolig Castell Penfro i ‘blwmers’ yn hedfan ar dyredau castell uchel. Mae’n gyffrous gweld beth mae’r tîm marchnata yn ei gynnig i hyrwyddo a gwerthu tocynnau.
Rwy'n mwynhau fy ngwaith yma yn y Torch yn fawr. Mae'r gwaith yn fy ngalluogi i fod yn greadigol ac i ddefnyddio fy nychymyg ac ni allaf feddwl am swydd well. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio ar brosiectau cyffrous a fydd gan y Torch ar y gweill yn y dyfodol.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.