Blog No. 22 - Janine Grayshon

Y mis hwn, rydyn ni'n cwrdd â Janine Grayshon. Janine yw Cydlynydd Rhaglen Artistig Theatr Torch sy’n gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni i sicrhau eich bod yn gweld y ffilmiau a’r cynyrchiadau yr hoffech eu gweld ar lwyfan a sgrin Theatr Torch ….

Rwy’n dod yn wreiddiol o Orllewin Canolbarth Lloegr ond symudais i Sir Benfro pan oeddwn tua naw oed. Es i Brifysgol Bath Spa i wneud fy Ngradd BA Celfyddydau Perfformio ymhell yn ôl yn 2006-2009 - mae'n ymddangos fel oes yn ôl nawr! Rwyf bob amser wedi bod yn angerddol iawn dros y celfyddydau, ac rwyf yn berfformiwr yn y bôn. Dydw i ddim yn gwneud llawer ar y llwyfan bellach, ond rydw i'n hoffi cadw cysylltiad  cymaint ag y gallaf gyda phrosiectau creadigol. Rwy’n mynychu’r gweithdai Ysgrifennu Creadigol yma yn y Torch a byddaf yn cofrestru ar gyfer yr Ysgol Haf i Oedolion yma ym mis Awst hefyd. Mae’n dda cadw’r sgiliau hynny’n fyw a chael rhagor o brofiad, nid yn unig ar gyfer agor drysau ar gyfer cyfleoedd newydd ond mae’n dda hefyd i’r enaid i fod yn gwneud rhywbeth yr ydych yn ei garu yn tydi?!

Y minnau yw’r Cydlynydd Rhaglen Artistig yma yn y Torch, felly fy ngwaith i yw dewis ac archebu theatr fyw/cerddoriaeth, sinema a darllediadau a sicrhau bod gennym raglen lawn, amrywiol a chyffrous o ddigwyddiadau. Mae’n rôl brysur iawn ac mae gen i gymaint o e-byst oddi wrth gymaint o gwmnïau gwahanol sydd am ddod â’u sioeau/digwyddiadau i’r theatr. Rwyf hefyd yn rheoli’r Oriel yma lle gall artistiaid lleol arddangos eu Gwaith. Byddaf hefyd yn rheoli llogi’r lleoliad ar gyfer cwmnïau lleol a thu hwnt sydd am gynnal unrhyw beth o gyfarfodydd bach i gynhadleddau llawn!

Pan fyddaf yn cyrraedd y gwaith yn y bore, byddai’n gwneud coffi ac eistedd lawr a’i yfed ar ôl bore prysur gyda’r ddwy fach adre! Yna byddaf yn cyrraedd yr e-byst ac yn gwirio adroddiadau sioeau digwyddiadau'r dyddiau blaenorol. Yna gwnaf beth bynnag sydd ar fy rhestr o bethau i'w gwneud am yr wythnos a all gynnwys anfon contractau, cael sioeau ar werth, cynnal cyfarfodydd gyda darpar artistiaid/cwmnïau, cadeirio cyfarfodydd gweithrediadau i sicrhau bod pawb yn gyfarwydd â'r gwaith o redeg busnes y Theatr o ddydd i ddydd, beth sydd i ddod yn y rhaglen – mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen! Nid oes unrhyw ddiwrnod byth yr un fath mewn gwirionedd ac mae rhywbeth i'w wneud bob amser.

Rwyf hefyd yn dysgu Cymraeg ac rwy'n ei fwynhau'n fawr. Rydw i newydd gwblhau’r lefel Mynediad gydag arholiad... ac fe wnaeth fy nghludo’n syth i adeg fy arholiadau TGAU! Byddaf yn symud i lefel Sylfaen ym mis Medi. Rydyn ni'n cynnal bore Coffi Cymraeg yma yn y Torch bob yn ail ddydd Mawrth o'r mis ac rydw i’n mynychu ynghyd â fy nghydweithwyr sy'n rhugl yn y Gymraeg, yr hyfryd Anwen neu Jackie. Dw i wrth fy modd, gan ei fod yn anffurfiol iawn ac yn ffordd wych o ymarfer Cymraeg sgyrsiol mewn awyrgylch cyfforddus gyda chriw gwych o bobl. Mae yna wyneb newydd bob amser ynghyd â rhai mynychwyr rheolaidd ac mae pob un ohonom wrth ein bodd â sgwrs a choffi ... ac weithiau hyd yn oed gyda thamaid o rywbeth ffein! Mae dysgu Cymraeg yn bwysig i mi gan ein bod ni fel lleoliad yn hoffi bod mor gynhwysol ag y gallwn fod ac mae hynny'n cynnwys gallu siarad ein hiaith frodorol.

O ran gwaith, rydw i bob amser flwyddyn ar y blaen, felly rwy’n edrych yn bennaf ar lenwi rhaglen ddigwyddiadau 2025! Er ein bod newydd gwblhau'r canllaw ffilm nesaf, bydd yn rhaid i mi ddechrau llunio'r un nesaf chwap. Yn fwy cyffrous, rwy’n un o Gyfarwyddwyr Cynorthwyol cynhyrchiad Theatr Ieuenctid y Torch o The Wind in the Willows yr haf hwn. Rwy’n mwynhau gweithio gyda’r Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned a’r Cyfarwyddwr, Tim Howe a’r bobl ifanc bendigedig sy’n rhan o’r Theatr Ieuenctid yn fawr iawn. Mae’n wych bod yn rhan o’r broses greadigol ac rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld y sioe wych hon ar ein prif lwyfan ym mis Gorffennaf!

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.