Blog No. 21 - Lewis O'Donnell
Yn ystod Mis Balchder (Pride Month) y mis hwn, mae Theatr Torch yn falch o fod yn cydweithio â Pembrokeshire Pride i ddod â chyfres o ffilmiau i chi sy'n dathlu straeon LHDTC+, gyda thocynnau ar eu cyfer yn £5 yn unig!
Bydd Pembrokeshire Pride wrth law mewn dangosiad o Beautiful Thing (15) ar 7 Mehefin, yn cynnal cyfarfod anffurfiol ar gyfer eu haelodau, yn ogystal â darparu cefnogaeth a gwybodaeth i unrhyw un sydd ei angen. Byddent wrth eu bodd yn gweld mwy o bobl o bob rhan o’n sir yn ymuno â nhw y noson honno i fwynhau’r sgwrs a’r ffilm.
Fe wnaethom ofyn i Lewis O’Donnell, Swyddog Ymgysylltu Pembrokeshire Pride am ragor o wybodaeth am y sefydliad a’u cynlluniau.
Sefydliad cymunedol yw Pembrokeshire Pride. Ein nod yw dod â'r sgwrs i'n sir a darparu gwasanaethau, cyfeirio cymorth ac addysg i bawb. Rydym yn gweithio i greu sir gynhwysol, lle gall pawb ddod o hyd i gymuned ddiogel, a lle mae gan bawb rywle i droi mewn cyfnod o angen. Rydym yn gweithio’n frwd i ddileu ofn a thuedd o gwmpas cymunedau a busnesau yn Sir Benfro. Bu angen mawr am wybodaeth a chyngor ynghylch y gymuned LHDT+. Bydd y newid yn araf ond yn un pwysig iawn.
Rydym yn cynnal llawer o ddigwyddiadau a chyfarfodydd ar gyfer y gymuned LHDT+ a’r gymuned gysylltiedig o amgylch Sir Benfro, ond mae croeso i bawb yn ein digwyddiadau. Rydyn ni am greu gofodau llawn hwyl gyda phobl o'r un anian. Rydym hefyd yn gweithio gyda nifer o fudiadau gwirfoddol a chymunedol gan ddod â chyfleoedd a hygyrchedd i'r rhai a all wynebu rhwystrau oherwydd amgylchiadau gwahanol yn y sir. Rydym bob amser yn chwilio am syniadau, noddwyr a chydweithwyr a all gyfoethogi'r tîm sydd eisoes yn anhygoel ac amrywiol yma yn Pride.
Hoffem hefyd gyhoeddi ein dyddiad Pride 2024 ar gyfer ein ‘Gŵyl Gynhwysiant’ a gynhelir ddydd Sadwrn 20 Gorffennaf. Mae'r holl fanylion yn mynd i gael eu rhyddhau i'r cyhoedd yn fuan. Rydym yn hynod gyffrous gyda'r gefnogaeth y mae busnesau a sefydliadau wedi'i rhoi i Pride dros y flwyddyn ddiwethaf i baratoi ar gyfer diwrnod ysblennydd sy'n dod i chi i gyd cyn hir.
Wrth i ni dyfu mewn cefnogaeth, gwirfoddolwyr, a mynediad, rydyn ni’n gobeithio y gallwn ni greu cymunedau hirhoedlog a rhwydweithiau cefnogi ar gyfer y gymuned LHDT+ yn y sir. Rydym am ddod â'r cymunedau ehangach ynghyd â'r gymuned LHDT+ ac integreiddio heb ragfarn a gwahaniaethu. Credwn fod pawb yn gyfartal ac mae pawb yn y wlad hardd hon yn haeddu sedd wrth y bwrdd. Os hoffech ddysgu mwy neu weld sut y gallwch gyfrannu at y newid hwn, cysylltwch â ni ar: hello@pembrokeshirepride.uk
Ffilmiau eraill yn y Torch sy'n ymwneud â Mis Balchder yw: Beautiful Thing: Nos Wener 7 Mehefin am 7.30pm. Weekend: Dydd Sadwrn 22 Mehefin am 7pm, dydd Mercher 26 Mehefin am 7.30pm, dydd Iau 27 Mehefin am 7.50pm. Pride: Dydd Sul 23 Mehefin am 4.45pm,dydd Mawrth 25 Mehefin am 7pm, dydd Mercher 26 Mehefin am 2pm, dydd Iau 27 Mehefin am 5.15pm. Mae pob tocyn yn £5.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am waith Theatr Torch gyda’n cymuned neu os hoffech i’ch sefydliad gynnal digwyddiad gyda ni, cysylltwch â Tim ein Uwch Reolwr – Ieuenctid a Chymuned ar e-bost tim@torchtheatre.co.uk.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.