Blog No. 17 - Liz May

Dyma Ellie Rose, Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar y cynhyrchiad o Kill Thy Neighbour. Wedi ei geni yn Hwlffordd a threulio ei phlentyndod yn Llandudoch, mae Ellie wedi cael amser anhygoel yn gweithio ar y cynhyrchiad hwn ochr yn ochr â Chelsey Gillard, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Torch. Bydd y sioe gomedi newydd sbon hon ar lwyfan y Torch, yma yn Aberdaugleddau o 24 Ebrill i 4 Mai. Dewch i ddarllen isod am ei hanturiaethau wrth iddi weithio ar y cynhyrchiad cyffrous hwn ar y cyd â Theatr Clwyd.

 

Wythnos 1

Y diwrnod cyntaf ac mae pawb yn gyffrous, ychydig yn nerfus ac yn bryderus i ddechrau. Fe wnaethon ni gwrdd â'r tîm cyfan sy'n gweithio ar y prosiect yma yn y Torch ac yn Theatr Clwyd - ac rwy'n golygu’r tîm cyfan! Mae pawb yn garedig, yn groesawgar ac wrth eu bodd i ddechrau'r cynhyrchiad newydd hwn. Mae Kill Thy Neighbour gan Lucie Lovatt, yn ymuno â ni drwy’r wythnos, i weithio drwy’r sgript newydd a datblygu unrhyw newidiadau ochr yn ochr â’r actorion a’n cyfarwyddwr artistig, Chelsey Gillard.

 

Dyma’r tro cyntaf i mi weithio ar ddrama theatr ranbarthol ar raddfa mor fawr, ac roeddwn i’n bryderus y byddwn i allan o le, ddim yn ddigon da neu ar yr ymylon. Ond mae'r wythnos hon wedi profi fy amheuaeth o fod yn anghywir. Mae'r ffordd y mae Chelsey yn symbylu'r tîm, yn cofleidio syniadau pawb, yn dod â ni at ein gilydd. Mae hi'n gydweithredwr ac yn hwylusydd rhyfeddol. Mae Lucie, hefyd, mor ostyngedig, manwl gywir a hael wrth wrando ar syniadau a chaniatáu iddyn nhw lunio eu geiriau.

 

Bob bore, byddwn yn dod ynghyd ac yn trafod clecs y dydd, yn rhannu storiâu ac yn ymchwilio unrhyw syniadau sy’n cysylltu byd y ddrama i’r cymeriadau hynod yma a’u teithiau. Yna byddwn yn dechrau ar y gwaith o amgylch y bwrdd; byddwn yn darllen rhannau o’r sgript ac yn eu cwtogi, yn golygu, gwneud newidiadau ac yn ail-ddarllen y deialog; i wirio a ydyn nhw dal yn berthnasol i’r stori. Rydym yn chwerthin, yn yfed un disied o de ar ȏl y llall ac yn deifio’n syth i bentref ffug Porth y Graith.

Rwyf wir yn gyffrous cael bwrw ati ar gyfer yr ail wythnos!

 

Wythnos 2

Yr wythnos hon rydym yn dechrau dod â’r golygfeydd yn fyw. Byddwn yn gweithio ar Act 1 Golygfa 1 yr holl ffordd i Act 3 Golygfa 3 o ddydd Llun i ddydd Iau. Cafodd yr actorion gyfle i chwarae ar y llwyfan, ei deimlo a’i gwneud yn gartref. Mae cynllun y set gan Elin Steele wir yn fanwl, yn llawn gwead ac oed, mae’n fy atgoffa cymaint o fwthyn 19eg fy mam-gu ger Boncath. Mae cymaint o’r ddrama hon yn fy nghludo adref i Sir Benfro.

 

Mae ‘na dipyn o linellau gan bob actor! Mae gan bob un ohonyn nhw ddull ei hun i’w dysgu, a diddorol yw gweld sut mae pob actor yn cyflwyno ei broses unigryw ei hun i wireddu hyn.

 

Ddydd Mawrth, cawsom ein cyfarfod cynhyrchu wythnosol. Dyma ble mae pob aelod o’r criw a’r tîm creadigol yn dod ynghyd i drafod rhannau technegol y sioe fel goleuo, sain, rigio, adeiladu set a gwisgoedd. Mae’n wych cael bod yn rhan o dîm cryf a chydlynol. Fel arfer, mewn sioeau bach, neu ymylol neu ar y cyd (tu allan i theatr rhanbarthol neu genedlethol), efallai bydd yn rhaid i mi gyfarwyddo a rhannu cyfrifoldebau ar gyfer dod o hyd i wisgoedd, marchnata, amserlenni ac ati. Felly, mae cael ffocysu ar yr ystafell ymarfer yn unig wir yn rhodd.

 

Byddwn yn rhedeg yfory am y tro cyntaf. Croeswch eich bysedd!

 

Wythnos 3 & 4

Treuliwyd y pythefnos diwethaf yn ymarfer y golygfeydd ac yn gosod seiliau cadarn y ddrama at ei gilydd. Pan fyddwch chi'n clywed y geiriau'n cael eu llefaru dro ar ôl tro, rydych chi'n clywed pethau newydd. Mae cymhlethdodau a dyfnderoedd ysgrifennu Lucie, y cymeriadau hardd hyn, yn dal i ddatgelu eu hunain.

 

Mae gennym ni beiriant coffi go iawn yn yr ystafell werdd (yr ystafell lle gall y cwmni dreulio amser segur) ac rydw i wedi dod yn brofiadol mewn gwneud lattes ceirch ac espresso - sgil bwysig iawn ar gyfer y dyddiau ymarfer hir hyn!

 

Rwyf wedi dysgu cymaint am weithio gyda thîm creadigol mawr a chyfrifoldeb y cyfarwyddwr i feithrin amgylchedd diogel, cynhwysol, llawen; ar wrando, rhoi nodiadau, cyfeiriad ac adborth. Rydym hefyd wedi gweithio gyda Bethan, ein cydlynydd agosatrwydd, ar ddwy sesiwn. Ei rôl yw sicrhau bod gan yr actorion ymreolaeth lawn a dewisiadau gwahanol o ran agwedd a chyflwyniad eiliadau agos yn y ddrama.

 

Yn olaf, cawsom ymweliad gan Heno, a fu’n ffilmio ac yn cyfweld â’r cast i’r wasg ar gyfer y sioe. Cadwch lygad am yr eitem!

 

Wythnos Dechnegol

Rydyn ni wedi cyrraedd yr wythnos dechnegol!

Dyma'r wythnos rydyn ni'n trosglwyddo o’r ystafell ymarfer i’r llwyfan perfformio. Cawn weld y set am y tro cyntaf, y cynllun goleuo, yr holl wisgoedd a chlywed y sgôr. Mae'r cyfan yn ffantastig!

Cawn weld gweledigaeth lawn y sioe yn dod at ei gilydd. Mae gan actorion y gwaith o addasu i'r lle ac i'r awditoriwm. Mae Tic Ashfield, y cyfansoddwr, wedi creu sain anhygoel gan ddefnyddio harmoniwm byw wedi'i recordio a phiano yn syth o'r 1950au. Defnyddiodd samplau o biano toredig, allan o diwn y daeth o hyd iddo yn Theatr Clwyd nôl yn 2014 i greu’r eiliadau cerddorol tywyllach, ynghyd â brwshys ar ddrwm magl baróc, sither a drwm bodhran. I mi mae’n cynhyrfu teimlad y môr a gwylltineb Mynyddoedd y Preseli. Mae yna unigrwydd a heddwch i’r sŵn – rhywbeth sy’n fy atgoffa o sefyll ar draeth gwyntog y gaeaf yn Nolton Haven, yn gwylio’r tonnau’n chwalu ac yn adeiladu.

Fy ngwaith yw cadw llygad ar y sgript, llinellau gweld a chefnogi'n gyffredinol yr hyn sydd ei angen ar Chelsey! Rydyn ni wedi bwyta llawer o Haribo.

Rydym yn barod i'r gynulleidfa ddod i ymuno â ni; i chwerthin, llefain ac ebychu gydag hyfrydwch. A dydw i ddim yn barod i'r sioe hon ddod i ben! Mae dod i’r gwaith bob dydd gydag unigolion mor dalentog, chwareus, anhygoel wedi bod yn un o’r amserau gorau i mi ei gael erioed ym myd theatr.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.