Blog No. 17 - Liz May

Liz May ydw i ac rwy’n ddehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Rwyf wedi bod yn dehongli ar gyfer Theatr y Torch ers sawl blwyddyn bellach. Os yw fy nghof yn dda, dw i'n meddwl mai'r cynhyrchiad cyntaf i mi weithio arno oedd Pinocchio ym mis Rhagfyr 2018! Yn amlwg, cawsom seibiant tra bod COVID yn digwydd.

Rwy’n dehongli’r cynyrchiadau mewnol yn rheolaidd, y rhai yn ystod mis Hydref ac yna’r Pantomeim adeg y Nadolig. Eleni, rwyf hefyd yn dehongli eu cynhyrchiad yn y gwanwyn.

Theatr y Torch yw un o fy hoff leoliadau dw i’n gweithio ynddi, sy’n cynnwys BSL yn ei chynyrchiadau. Mae’r staff yn gyfeillgar ac yn ateb anghenion pawb. Mae’n hyfryd gweld theatrau yn cynnwys BSL yn eu cynyrchiadau yn rheolaidd. Rwy'n cael dehongli amrywiaeth o gynyrchiadau yma yn y Torch o sioeau cerdd i ddramâu megis Private Lives. Gyda’r cefndir sydd gennyf, fel cyn berfformiwr, gallaf ddod â mwy i’m dehongliadau, gan dynnu ar fy mhrofiadau fy hun o weithio ar y llwyfan.

Mae'r Torch yn lleoliad gwych i weithio ynddi ac mae gosodiad y theatr yn golygu'n weledol, ble bynnag y byddwch yn eistedd, gallwch weld y llwyfan yn glir. Mae hyn yn dda ar gyfer cael mynediad at y dehonglydd ar y llwyfan, ac yn dibynnu ar ddewisiadau'r gymuned fyddar, bydd hyn yn pennu ble y byddan nhw’n eistedd. Wrth i chi edrych tuag at y llwyfan o’r awditoriwm, fel arfer gallwch ddod o hyd i mi ar ochr chwith y llwyfan.

Er hynny, ym mis Chwefror, byddaf yn perfformio gyda chwmni dawns teithiol o'r enw Ransack, lle caf fy integreiddio i'r hanner cyntaf cyfan. Rwy'n dawnsio eto, ac mae'r dawnswyr hefyd yn arwyddo. Rwyf hefyd yn gweithio gyda Ballet Cymru ac yn teithio gyda rhai o'u cynyrchiadau sy'n ymweld â’r Torch.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.