Blog No. 16 - Nia ap Tegwyn
Dewch i gwrdd â Nia ap Tegwyn. Mae’n hyrwyddo gwaith Theatr y Torch fesul y dudalen Gymraeg ym mhapur wythnosol y Carmarthen Journal a gobeithia dod yn ymwelydd rheolaidd â’r Torch.
Derbyniais wahoddiad i fynd i Theatr y Torch i weld drama Private Lives nȏl yn mis Hydref ac er fy mod wedi bod yn y theatr un tro sawl blwyddyn yn ôl nid wyf yn gyfarwydd iawn â’r lleoliad na chwaith am eu harlwy. Cawsom y croeso mwyaf cynnes i dderbyniad hyfryd cyn y sioe a braf oedd gallu rhwydweithio a chwrdd ag eraill a sgwrsio’n hamddenol.
Mae ardal y bar a’r dderbynfa’n gyffyrddus braf ac roedd pawb yn hapus i fod yna ac yn edrych ymlaen at y wledd oedd o’n blaenau. Roedd y ddrama ei hun yn newydd i fi ond yn glasur wrth gwrs a’r actorion i gyd yn wych. Wnes i wir fwynhau’r ddrama’n fawr iawn ac eto yn braf i gael cymdeithasu yn ystod yr egwyl. Gan nad oeddwn yn gyfarwydd iawn â’r theatr ar y pryd, rwyf wedi bod yn gwneud ymchwil ar-lein ers fy ymweliad i ddarganfod pa gynyrchiadau, perfformiadau ac artistiaid sydd gyda nhw ar amserlen y dyfodol.
Roeddwn wedi fy synnu ar yr amrywiaeth eang y mae’r theatr yn cynnig ac ar ôl gweld Private Lives, sef drama o safon, rwyf yn gwybod bydd unrhyw beth fyddaf yn dewis ei gweld yn y dyfodol o’r safon uchaf hefyd. Rwyf wedi gweld sawl peth sydd yn denu fy sylw a byddaf yn mynd ati i benderfynu beth i roi yn nyddiadur 2024 cyn bo hir.
Un o’r pethau fydd yn sicr ar fy rhestr yw’r ddrama Kill Thy Neighbour, sef drama ar y cyd â Theatr y Torch a Theatr Clwyd. Bydd hon yn cael ei dangos ym mis Ebrill ac rwy’n edrych ymlaen yn barod at weld y cynhyrchiad. Y cwestiwn mawr am y ddrama wrth gwrs, yw pwy fydd yn cael dod gyda fi a pha ddanteithion i brynu adeg yr egwyl!
Fel rhan o fy ngwaith gyda Menter Iaith Menter Gorllewin Sir Gâr, rwy’n cydlynu tudalen Gymraeg y Carmarthen Journal a felly rwyf yn hyrwyddo perfformiadau cyfrwng Cymraeg Theatr y Torch eisoes ar y dudalen hon a felly braf byddai mynychu un ohonynt hefyd.
Clywais si hefyd bod y Theatr wedi cynnwys geiriau ac ymadroddion Cymraeg yn y panto o Beauty and the Beast, felly da iawn am wneud hyn a rwyf wir yn edrych ymlaen at ymweld â’r theatr eto. Rwyf wedi sôn am fy mhrofiad yn y theatr wrth deulu a ffrindiau ac wedi’u hannog i fynd i’r wefan er mwyn cael blas o’r arlwy a gobeithiaf bydd rhai ohonynt yn manteisio ar y cyfle ac yn prynu tocynnau yn y flwyddyn newydd. Pwy â ŵyr, efallai byddai modd i ni drefnu bws i fynd i weld Kill Thy Neighbour…
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.