BLOG RHIF. 12 - THEATR IEUENCTID Y TORCH

Mae Theatr y Torch yn Aberdaugleddau yn ymfalchïo mewn meithrin talent newydd a’i Theatr Ieuenctid, i lawer, yw’r lle ble mae hud y theatr oll yn dechrau. Mae’r Theatr Ieuenctid (YT) yn rhaglen ar gyfer pobl ifanc rhwng saith a 18 oed sy’n eu helpu i ddeall beth yw bod yn wneuthurwr theatr ac mae’r cyfleoedd yn ddiddiwedd.

Bob wythnos, mae’r bobl ifanc yn cael eu hannog i fagu hyder fesul sesiynau meithrin sgiliau creadigol a deniadol, dan arweiniad tîm ymroddedig Theatr y Torch. Nid yw'r sesiynau hyn yn ymwneud ag actio a theatr yn unig; mae'r bobl ifanc hefyd yn dysgu am sgiliau cymdeithasol, datrys problemau a gwaith tîm. Yn bwysicaf oll, maen nhw'n cael hwyl ac yn gwneud ffrindiau newydd o dan lygad barcud Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned.

Llwyddodd Theatr y Torch i gael sgwrs gyda dau o gyfranogwyr y Theatr Ieuenctid... dewch i gwrdd ag Elin a Ben.

Elin: “Rwy'n mynd i Theatr Ieuenctid y Torch bob wythnos ac mae llawer o resymau pam fy mod yn dychwelyd dro ar ôl tro. Yn gyntaf, mae'n creu cyfleoedd gwych i berfformio. Yn ddiweddar bu i ni gynnal perfformiad o olygfeydd o'r ddrama Blank ac oherwydd y Torch cefais glyweliad ar gyfer y Theatr Ieuenctid Cenedlaethol. Rwyf hefyd wedi gallu cwrdd â nifer o bobl y tu allan i fy ysgol na fyddwn byth wedi eu cwrdd, a gwneud cymaint mwy o ffrindiau.

“Yn bwysicaf oll, mae'n llawer o hwyl. Mae’r Theatr Ieuenctid yn ffordd dda iawn o leddfu straen a mwynhau ychydig oriau i ffwrdd o'r ysgol. Mae wedi bod yn wych cwrdd â chymaint o bobl o ysgolion eraill sydd oll yn hoffi’r un pethau â fi. Mae Torch yn golygu llawer i ni ac mae wedi ein helpu i greu perthynas a rhoi cyfleoedd i ni na fyddem erioed wedi'u cael fel arall. Ond nid hwyl yn unig yw’r Torch. Rwyf wedi dysgu cymaint y tymor hwn, nid yn unig am berfformio, ond ysgrifennu, cyfarwyddo, sain a goleuo. Mae Tim yn aml yn esbonio pam ei fod yn gwneud pethau a beth maen nhw'n ei olygu i'n helpu ni i ddeall pob rhan o’r cynhyrchiad.

“Mae fy hyder wedi cynyddu’n aruthrol o ganlyniad i fynychu’r Torch. Bob tymor rydym yn gweithio tuag at berfformiad. Yr ychydig wythnosau cyntaf rydym yn cynhesu gyda gemau seiliedig ar ddrama ac yn gweithio ychydig gyda'r sgriptiau cyn castio'r ddrama. Yna byddwn yn treulio ein hamser bob wythnos yn gweithio ar y gwahanol olygfeydd. Mae Tim a Ceri yn gweithio gyda ni ar y golygfeydd, tra hefyd yn caniatáu i ni eu datblygu ein hunain a defnyddio ein syniadau ein hunain. Rydyn ni'n cael cymaint o le i siapio'r cymeriadau, rydyn ni wir yn mwynhau chwarae a gweithio gyda nhw. Rwy'n meddwl y dylai eraill ddod yma oherwydd mae’r Torch yn ffordd hynod bleserus o ddysgu a pherfformio. Mae'r cyfleoedd a gewch o ddod i Torch yn anhygoel ac edrychaf ymlaen at ddod bob wythnos. Rwyf wrth fy modd ac rwy’n meddwl os ydych chi’n mwynhau drama y byddwch chi wrth eich bodd â hi hefyd.”

Ben: “Mae’r Theatr Ieuenctid yn darparu gofod diogel a chynhwysol i bobl ifanc wneud ffrindiau newydd, darganfod angerdd newydd, a chael ymdeimlad o berthyn. Trwy gymryd rhan mewn theatr ieuenctid, gall pobl ifanc ddysgu gwersi bywyd gwerthfawr a datblygu sgiliau a fydd o fudd iddynt yn y rhan fwyaf o yrfaoedd neu weithgareddau personol. Mae hefyd yn dda i unrhyw un sydd am fynegi eu hunain a magu hyder.

“Rwyf wedi bod yn dod i Theatr Ieuenctid y Torch ers rhai blynyddoedd bellach ar ôl bod eisiau gwella fy sgiliau actio a theatr. Y rheswm rydw i'n dod i’r Theatr Ieuenctid  yw oherwydd ei fod yn lle diogel lle gallwch chi jocian am y lle am a pheidio â phoeni am fod mewn amgylchedd caeth ond yn dal i deimlo eich bod yn rhan o rywbeth cynhyrchiol. Rwyf hefyd yn dod yma oherwydd bod yr aelodau a'r athrawon yn groesawgar ac yn hawdd mynd atynt.

“Yn ystod y sesiynau gallwch ddisgwyl cymryd rhan mewn gemau a gweithgareddau drama cyn mynd i grwpiau bach a chreu sgetshis byr y byddwch yn eu perfformio o flaen eich gilydd. Yn ogystal â hyn, mae gennych chi gyfle hefyd i weithio tuag at berfformiad byr rydyn ni’n ei gyflwyno ar ddiwedd y tymor o flaen cynulleidfa.

“Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb mewn theatr ac ers bod gyda’r Theatr Ieuenctid rwyf wedi gwella mewn meysydd fel cyfathrebu, gwaith tîm, creadigrwydd, a hyder. Rwyf hefyd wedi datblygu fy sgiliau actio a pherfformio, wedi dysgu am grefft llwyfan, ac wedi archwilio gwahanol arddulliau theatr. Mae cymryd rhan mewn theatr ieuenctid yn rhoi cyfle gwerthfawr ar gyfer rheoli amser, datblygu sgiliau, a hunanfynegiant sydd wedi helpu i lunio pwy ydw i nawr.

“Ar y cyfan, cymuned groesawgar yw Theatr Ieuenctid y Torch ac rwy’n argymell yn gryf eich bod yn ystyried ymuno gan y bydd yn rhoi cymaint mwy o hyder i chi ac o bosibl y cyfle i wneud ffrindiau newydd a chwrdd â phobl newydd efallai na fyddwch yn cymysgu â hwy fel arfer. Felly, beth am fwrw ati?”

 

Theatr Ieuenctid y Torch Mae tymor yr hydref yn dechrau ar yr wythnos sy’n dechrau 18 Medi gyda sesiynau’n cael eu cynnal ar y diwrnodau canlynol yn ystod y tymor:

Grŵp 1: Blynyddoedd ysgol 3 a 4 yn cyfarfod ar DDYDD MAWRTH 4:00pm i 5:30pm

Grŵp 2: Blynyddoedd ysgol 5 a 6 yn cyfarfod ar DDYDD MERCHER 4:30pm i 6:00pm

Grŵp 3: Blynyddoedd ysgol 7, 8, a 9 yn cyfarfod ar DDYDD MAWRTH 6.30pm i 8:00pm

Grŵp 4: Blynyddoedd ysgol 10, 11, 12 a 13 yn cyfarfod ar DDYDD MERCHER 7:30pm i 9:30pm

 

Os yw hyn yn apelio atoch neu’ch person ifanc a bod gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan ohono, cysylltwch â thîm swyddfa docynnau Theatr y Torch ar 01646 695267 a byddant yn hapus i’ch cofrestru ar gyfer eich sesiwn flasu.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.