BLOG RHIF. 11 - AMANDA GRIFFITHS

Hi, Amanda ydw i ac rwy’n gynorthwyydd swyddfa docynnau yn Theatr y Torch. Rwyf wedi gweithio yn Theatr y Torch ers dros 5 mlynedd bellach a dechreuais yn achlysurol am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 2017, gan weithio oriau o amgylch swydd arall. Ym mis Chwefror 2018 ymunais â theatr y Torch yn barhaol ac mae'r gweddill, fel mae’n nhw’n ei ddweud, yn hanes! Fy nghariad at y theatr a’r celfyddydau a fy angerdd tuag at bobl yw’r rheswm i mi ddewis y rôl hon. Rydyn ni'n gwneud mwy na gwerthu tocynnau’n unig ac nid oes dau ddiwrnod yr un peth. Mae ein horiau a’n sifftiau’n amrywio felly mae’n rhaid i ni fod yn hyblyg, ac addasu i newidiadau munud olaf, fel canslo digwyddiadau neu newid lleoliad. Y peth rydw i’n ei garu fwyaf am fy swydd, ar wahân i’r tîm hyfryd rydw i’n gweithio gyda nhw, yw cael cyfarfod â’r cyhoedd a helpu i rannu ein lleoliad lleol, (oeddech chi’n gwybod bod y Torch yn elusen gofrestredig?) a fy angerdd am y celfyddydau gyda phobl o bob cefndir. Mae'r Torch yn lle croesawgar i'n cymuned.

Fel rhan o fy rôl, rwy’n delio ag ymholiadau cwsmeriaid dros y ffôn, drwy e-bost ac yn bersonol, yn cynghori ar ddigwyddiadau sydd i ddod, seddi, mynediad a chyfraddau grŵp ar gyfer archebion mwy fel ysgolion neu grwpiau cymunedol. Rwyf hefyd yn gweithio'n agos gyda'r tîm Blaen Tŷ gan gynnwys ein huwch reolwyr/rheolwyr ar ddyletswydd, tywyswyr a staff ciosg/caffi, yn ogystal â'n tîm marchnata i helpu i hyrwyddo ymgyrchoedd marchnata, arddangos a phrawfddarllen deunydd marchnata. Rwyf hefyd yn gyfrifol am ddiweddaru taenlenni ar gyfer archebion grŵp, cysylltu ag ysgolion lleol a grwpiau cymunedol, anfon ffigurau ffilm dyddiol/adroddiadau ffilm wythnosol at ddosbarthwyr ffilm a rhywfaint o anfonebu. Os ydym byth yn brin o dywyswyr, i gynorthwyo cwsmeriaid ac eistedd i mewn ar ddigwyddiadau, byddaf yn aml yn helpu yma hefyd.

Yn aml gall gweithio yn y swyddfa docynnau fod yn straen, pan fydd hi'n brysur a'r ciwiau allan drwy’r drws neu os bydd pethau'n newid funud olaf. Mae ein tîm bach yn cydweithio i ddarparu'r gwasanaeth gorau y gallwn, ac yn aml yn dod o hyd i ochr ddigrif i'n swydd. Y pethau mwyaf cyffredin rydyn ni'n delio â nhw yw pobl yn colli tocynnau, yn troi i fyny ar y diwrnod anghywir neu hyd yn oed yn anghofio pa enw y mae’r tocynnau wedi eu harchebu! Yn ffodus, rydym bob amser wrth law i helpu cymaint ag y gallwn. Roedd yr achosion o covid a'r cyfnodau clo wedi bod yn anodd i ni fel elusen ac roedd y gefnogaeth gan y cyhoedd yn anhygoel. Am gyfnod, bûm yn gweithio gartref, yn cysylltu â phobl i aildrefnu archebion a’u diweddaru ar ddigwyddiadau theatr. Y cyfnod hwn, i mi, oedd y mwyaf gwerthfawr, gan imi gael cadw mewn cysylltiad â’n cwsmeriaid hyfryd ac i rai dyma’r unig ran o’u diwrnod yr oeddent yn siarad ag unrhyw un. Roedd ail-agor yn dilyn covid yn gyfnod heriol i’r theatr ac i’n swyddfa docynnau, gan ein bod yn delio â phobl a oedd yn aml yn bryderus ac yn ansicr. Roedd cyflwyno rheolau diogelwch newydd a thrwyddedau covid yn her enfawr i bawb, a thrwy weithio ochr yn ochr â'n tîm Blaen Tŷ, gwnes fy ngorau glas i helpu pawb a ddaeth drwy ein drysau. Mae mor braf gweld wynebau cyfarwydd yn dychwelyd a rhai newydd hefyd.

Byddaf bob amser yn ddiolchgar am y profiadau y mae gweithio yn y Swyddfa Docynnau yn Theatr y Torch wedi’u rhoi i mi, a’r llu o bobl yr wyf wedi’u cyfarfod ar hyd y ffordd. Does dim swydd debyg iddi!

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.