‘Biwti’ o sioe yn y Torch!

Mae’n amser yna o'r flwyddyn eto... O na dyw e ddim! O ydy e mae e! Mae’n bleser gan Theatr y Torch, Aberdaugleddau, ddod â’i phantomeim Nadoligaidd Beauty and The Beast i chi y Nadolig hwn. Stori mor hen â phantomeim gyda thro yn y gynffon, mae'r stori wedi'i hysbrydoli gan y stori dylwyth teg Ffrengig glasurol.

Mae’r ‘biwti’ o sioe hon, sydd wedi ei hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan y Cyfarwyddwr Artistig Chelsey Gillard, yn cynnwys cast hynod dalentog, llwyth o gyfranogiad gan y gynulleidfa a chaneuon newydd sbon sy’n siŵr o gael chi i gyd-ganu a chwerthin hollti bol.

A sôn am aelodau’r cast …. Hoffech chi wybod pwy sy'n ymddangos yn ein panto? Bloeddiwch yn uwch! Oedd hynny yn hoffwn?! Yr wythnos hon mae Theatr y Torch yn rhannu gyda chi ei haelodau cast anhygoel, disglair, ysblennydd a fydd yn mynd â'ch teulu ar antur hwyliog ryfeddol.

Yn gyntaf mae Amelia Ryan sy'n chwarae Crystal the Butler. Ar ôl hyfforddi ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Talaith California Fullerton, ers graddio, mae hi wedi gweithio gyda Theatr y Torch ar brosiect ymchwil a datblygu ‘Nest.’ Mae hi hefyd wedi ymddangos ar Money Monster, sef hysbyseb cyllid myfyrwyr Cymru, hysbyseb Iechyd Cyhoeddus Cymru ac wedi lleisio dros Funky Pigeon a Hodge Bank. Hwn fydd trydydd Nadolig Amelia yn y Torch ac mae hi “mor falch o fod yn ôl unwaith eto.”

Nesaf mae Ceri Ashe fel y Evil Fairy Shadowmist, actor ac awdur a aned yn Sir Benfro gyda’i chwmni theatr ei hun Popty Ping Productions. Mae ei gwaith ar y sgrin yn cynnwys Niamh yn y Pilot of Class, Ros yn Gwaith/Cartref - Cyfres 6 ar gyfer Fiction Factory / S4C a Claire yn Pull Up Pilot Ridley Scott Associates. Mae Ceri hefyd yn chwarae rhan y Ditectif yn y ffilm nodwedd Scam.

Ein cyflwyniad nesaf yw Ceri Mears. Yn wreiddiol o Lanelli, mae Ceri yn chwarae rhan y Good Fairy Gertrude, ein Fonesig. Hyfforddodd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac mae wedi ymddangos ar StellaThe 4 O’Clock Club CBBC, Being Human a Torchwood y BBC gyferbyn â John Barrowman i enwi dim ond y rhai. Mae hefyd wedi ymddangos mewn amryw hysbysebion gan gynnwys Vodaphone, Network Rail a Pot Noodle ac mae'n arbenigo ar y gitâr, gitâr fas a’r drymiau.

Yn siaradwr Cymraeg rhugl, mae’r actores Leilah Hughes yn mezzo soprano ac mae ei sgiliau’n cynnwys bale a dawns fodern. Leilah sy'n chwarae Belle. Mae hi wedi ymddangos ar Pobol y Cwm a Gwaith Cartref ar S4C yn ogystal ag ymddangos yn Truth and Dare gyda Theatr Clwyd ac Anthem ar gyfer Canolfan Mileniwm Cymru.

Does dim angen cyflwyniad ar ein hactor nesaf – Samuel Freeman o Sir Benfro sy’n chwarae rhan y Beast. Cafodd Samuel ei eni a'i fagu yn Aberdaugleddau a mynychodd Theatr Ieuenctid y Torch pan oedd yn blentyn. Ymddangosodd yr actor, cerddor a chyfansoddwr yn ddiweddar ar lwyfan y Torch in the Jabberwocky and Other Nonsense (Calf 2 Cow).

Dywedodd Samuel: “Felly yn naturiol, rydw i wrth fy modd i fod yn gweithio yn y Torch eto y Nadolig hwn yn Beauty and the Beast. Mae’n argoeli i fod yn llawn  chwerthin hollti bol, cerddoriaeth, a hwyl rydych chi’n ei ddisgwyl o’r panto a mwy! Clywais fod y Beast yn eitha’ golygus o dan yr holl ffwr a cholur ‘na hefyd…”

Yn ymuno â’r Torch fel ‘Swing’ – sef is-astudiaeth ar gyfer rolau Belle, Evil Fairy, Butler a Tad Belle (fel Mam) mae’r actor lleol Freya Dare. Artist dawns/drama cymunedol yn Sir Benfro yw Freya ac mae’n rhedeg ei Chwmni Theatr ei hun, Forest Fairies a Friends Theatre. Mae ei chredydau teledu a ffilm yn cynnwys Baker Boys (BBC), Red Haven (ffilm nodwedd), hysbyseb TUI, hysbyseb BT ac OXO. Eleni mae hi'n edrych ymlaen at fod yn rhan o bantomeim Theatr y Torch.

Ac yn olaf, mae brodor arall o Sir Benfro Lloyd Grayshon sy’n chwarae rhan Tad Belle. Yn actor a chrëwr ffilm nid yw'n ddieithr i fod ar lwyfan y Torch. Efallai eich bod wedi ei weld mewn ychydig o gynyrchiadau’r Torch; A Midsummer’s Night Dream (cynhyrchiad Mappa Mundi/Theatr y Torch) Aladdin (Theatr y Torch) a Brief Encounter (Theatr y Torch). Roedd Lloyd hefyd wrth ei fodd pan ofynnwyd iddo fod yn Gyfarwyddwr Cerdd / arweinydd Band yng nghynhyrchiad Theatr y Torch o One Man Two Governors. Meddai: “Rwy’n hynod falch o fod yn dychwelyd i’r Torch eto y Nadolig hwn ac yn edrych ymlaen at weithio gyda Chelsey am y tro cyntaf.”

Bydd Beauty and the Beast yn gwneud ei ffordd hudolus i lwyfan Theatr y Torch o ddydd Gwener 15 Rhagfyr tan ddydd Sul 31 Rhagfyr. Perfformiad Amgylchedd Hamddenol - Dydd Sadwrn 16 Rhagfyr am 2pm a Pherfformiad Dehongli BSL - Dydd Mawrth 19 Rhagfyr am 6pm.

Sylwch: Bydd aelodau’r Torch yn cael 25% oddi ar hyd at bedwar tocyn a brynwyd o Beauty and the Beast.

Tocynnau arferol yn £22.50 | £19.00 CONS | £70.00 TEULU. Gellir prynu tocynnau o’r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Torch ar 01646 695267 neu ewch i https://www.torchtheatre.co.uk/events/beauty-and-the-beast/

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.