Adolygiad gan Val Ruloff, ein hadolydd rheolaidd

Beetlejuice Beetlejuice.... Naaaaaaaaa!! Peidiwch â'i ddweud deirgwaith!

Adolygiad gan Val Ruloff, ein hadolydd rheolaidd 

Mae'r cynhyrchiad hwn gan Tim Burton yn ddilyniant pleserus iawn i Beetlejuice... gan aros yn ffyddlon i’r "ysbryd" gwreiddiol (!) Mae'r ymgnawdoliad diweddaraf hwn yn cynnig stori hollol newydd, rhai cymeriadau nas gwelwyd o’r blaen ac ambell i dro cyffrous, gan fynd â ni ar daith anturus, derfysglyd. sy'n profi'n bair o slapstic, comedi a chwerthin hollti bol ... yn ogystal â hiwmor mwy gothig a drama yn ymylu ar diriogaeth dywyllach. Mae hyn, wrth gwrs, yn cyd-fynd yn fawr â holl nodweddion a thraddodiadau gorau Tim Burton. 

Mae'r ffotograffiaeth a'r lleoliadau yn creu'r awyrgylch gothig yn effeithiol iawn ac wrth gwrs, mae'r effeithiau arbennig yn hynod drawiadol. Mae'r sgôr cerddorol a'r sain yn haeddu clod mawr hefyd. 

Mae'r serenâd gan Beetlejuice gyda'i gitâr, yn canu baled Richard Marx, "Right Here Waiting", yn aruchel.... ac yn darparu moment ddoniol iawn! Mae cysyniad a thema gerddorol "Soul Train" yn nodweddion ysbrydoledig ac mae "MacArthur Park" yn ddarn gosod gwych. Mae'n rhaid nodi'r gân "Day-O" fel un sy’n aros yn y cof, oherwydd yr anwyldeb a'r ffaith ei bod yn parhua i gael ei chofio mor dda o'r ffilm wreiddiol. 

Roedd gwerthfawrogiad y gynulleidfa’n amlwg, gyda sylwadau clywadwy ac eiliadau o chwerthin uchel. 

Mae'r cast yn ennill cydnabyddiaeth arbennig iawn... yn enwedig oherwydd y dilyniant gydag aelodau gwreiddiol prif gast Beetlejuice Michael Keaton fel (Betelgeuse) Beetlejuice, Winona Ryder fel Lydia Deetz a Catherine O'Hara fel Delia Deetz. 

Telir digon o wrogaeth i'r ffilm wreiddiol. Cyfeirir ati gan sylwadau Beetlejuice ar hynt 36 mlynedd yn ystod ei arhosiad am Lydia Deetz a gohiriad am ei gynlluniau priodas. 

Mae Lydia Deetz hefyd yn cyfeirio at dreigl amser ac arwyddocâd digwyddiadau'r gorffennol, yn enwedig yr effaith ar ei bywyd ers pan oedd yn ei harddegau a dod yn fam. Mae cyfeiriadau at gymeriadau canolog Maitlands, Geena Davis ac Alec Baldwin yn y Beetlejuice gwreiddiol hefyd. 

Mae Astrid y ferch, yn gymeriad newydd a chwaraeir gan Jenna Ortega. Mae dyweddi Lydia Deetz, Rory, yn cael ei chwarae gan Justin Theroux. Monica Bellucci sy'n chwarae rhan Delores, a oedd yn briod â Beetlejuice pan oedd yn fyw, ganrifoedd lawer yn ôl yn ystod cyfnod y Pla. Mae'r cymeriadau hyn yn chwarae rhan ganolog yn holl gamau’r stori. Rhoddir cefnogaeth wych gan Willem Dafoe fel ditectif ysbrydion, Wolf Jackson, a oedd yn seren 'ffilm B' mewn bywyd. Mae Arthur Conti yn chwarae rhan enigmatig fel Jeremy Frazier, sy’n ymwneud yn gryno ag Astrid er nad yw’n gymwys ar gyfer unrhyw beddargraff R.I.P. Mae Danny DeVito yn cael ei groesawu'n fawr fel gofalwr / porthor yn y byd yn dilyn ei farwolaeth, ac felly hefyd Nick Kellington fel Bob, cymeriad sombi. 

Nawr... gyda'r holl damaidau llawn sudd hyn yn byrlymu, mae’n barod ac yn aros.... gochelwch! 

Mae'r Sudd yn Rhydd! 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.