BALLET CYMRU: DREAM - DYDD SADWRN 2 GORFFENNAF

Nos Sadwrn 2 Gorffennaf am 7.30pm, bydd Ballet Cymru yn dychwelyd i Theatr y Torch gyda’u cynhyrchiad byw o Dream, addasiad newydd cyffrous o A Midsummer Night’s Dream gan Shakespeare. Mae’r cynhyrchiad yn argoeli i fod yn llawn hud a dawn cynyrchiadau blaenorol Ballet Cymru sy’n cynnwys addasiad swynol o rigymau gwrthryfelgar Roald Dahl.

Mae Ballet Cymru, sydd wedi’i leoli yng Nghasnewydd, yn grŵp celfyddydau perfformio sy’n adnabyddus am eu perfformiadau gwreiddiol a hygyrch, o fale, dawns a theatr fodern. Nhw yw’r ‘cwmni bale oedd yn hoffi gwneud pethau’n wahanol’.

Nid yw Dream yn eithriad, sy’n cael ei disgrifio fel ail ddehongliad pefriog mewn bale ar gyfer yr 21ain ganrif. Gan weithio gyda’r offerynnwr a’r cyfansoddwr arobryn Frank Moon, mae Ballet Cymru wedi creu byd hudolus o dylwyth teg, cariadon a hudoliaeth swynol sy’n gwyro rhywedd. 

Mae Frank Moon yn un o’r prif gyfansoddwyr ar gyfer dawns yn y DU, ac mae ei gyfansoddiadau’n cynnwys; The Metamorphosis (Tŷ Opera Brenhinol, enillydd gwobr Olivier, Gwobr South Bank Sky Arts, a Gwobr Ddawns Genedlaethol y Critic’s Circle), The Little Match Girl (Jerwood DanceEast / Sadler’s Wells).

Mae’r cynhyrchiad yn cynnwys ymddangosiadau cyntaf bale, dawnswyr sy’n torri tir newydd, cynhyrchiad fideo syfrdanol a choreograffi arloesol gan y Cyfarwyddwr Artistig Darius James (OBE) ac Amy Doughty.

Mae Ballet Cymru, sydd wedi ennill gwobr Critics’ Circle, yn gwmni bale teithiol rhyngwladol i Gymru, sydd wedi ymrwymo i gynhwysiant ac arloesedd mewn dawns a bale clasurol, a chydweithio o’r safon uchaf. Mae’r cwmni’n cynhyrchu perfformiadau dawns proffesiynol gwreiddiol sy’n teithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ei rhaglen Mynediad ac Allgymorth helaeth wedi ymrwymo i chwalu rhwystrau er mwyn cael mynediad i'r celfyddydau.

Yn agor y sioe mae Ysgolheigion Duets o Ysgol Gynradd Gelliswick, a fydd yn dathlu diwedd eu hysgoloriaeth 3 blynedd gyda pherfformiad arbennig iawn ar y llwyfan. Mae Duets yn rhaglen ddawns a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Paul Hamlyn a gynlluniwyd yn benodol i nodi talent, darparu llwybrau dilyniant a gwella dyhead.Mae rhaglen Cymru gyfan yn ymgysylltu â dros 13,500 o bobl ifanc mewn 6 rhanbarth gwahanol.

Mae tocynnau ar gyfer Dream ar werth nawr o Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar 01646 695267 neu ar-lein yma.

Mae’r perfformiad yn addas i’r rheiny 7+.

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.